News Centre

Enillydd £500 Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i gyhoeddi

Postiwyd ar : 23 Hyd 2023

Enillydd £500 Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i gyhoeddi
Mae enillwyr diweddaraf ymgyrch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gweddillion am Arian, wedi cael eu cyhoeddi.
 
Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd a chyfrannu at dargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru. Mae'n golygu bod tai yn cael eu monitro, gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis i ennill £500.
 
Mae holl drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys i ennill y wobr ariannol ar yr amod eu bod nhw'n rhoi eu cadi ailgylchu gwastraff bwyd allan i'w gasglu.
 
Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol i bob un o’r 80,000 o gartrefi, lle mae’r gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar gyfer proses o’r enw Treulio Anaerobig, lle mae'n cael ei droi’n ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
 
Enillwyr y wobr ariannol o £500 y mis hwn oedd Mr a Mrs Sweetman o Wattsville.
 
Dywedodd Mr Sweetman: “Rydyn ni wedi bod yn ailgylchu ein gwastraff bwyd cyhyd ag y galla i gofio. Mae’n syml iawn i’w wneud, a phan allan nhw droi eich gwastraff bwyd yn rhywbeth sy'n gallu cael ei ddefnyddio, fel ynni adnewyddadwy, dydw i ddim yn gwybod pam na fyddai unrhyw un yn ei wneud.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Hoffwn i longyfarch Mr a Mrs Sweetman a’n holl enillwyr Gweddillion am Arian blaenorol.
 
“Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, rydyn ni'n gobeithio y bydd yr wobr ariannol hon o fudd i’n trigolion. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan i gael cyfle i ennill y wobr ariannol nesaf.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd ewch i: www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd


Ymholiadau'r Cyfryngau