News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi treial bagiau cadi sy’n rhad ac am ddim

Postiwyd ar : 31 Hyd 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi treial bagiau cadi sy’n rhad ac am ddim
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi treial newydd am 12 mis i ddarparu bagiau cadi gwastraff bwyd dan do sy’n rhad ac am ddim i drigolion.
 
Mae disgwyl i’r treial 12 mis ddechrau ym mis Rhagfyrn 2023 a bydd y cyflenwad 6 mis cyntaf o leininau yn cael eu dosbarthu’n uniongyrchol i ddrysau trigolion, gyda’r cyflenwad 6 mis sy’n dilyn ar gael i’w gasglu o lyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden, Siambrau'r Cyngor Bedwas, Tŷ Penallta a Siop Ailddefnyddio Penallta.
 
Mae'r treial yn rhan o fap llwybr saith mlynedd y Cyngor i sicrhau bod Caerffili yn cyrraedd ac yn rhagori ar dargedau ailgylchu statudol.
 
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd targedau ailgylchu llym Llywodraeth Cymru, ac mae Caerffili yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn cyrraedd targed y dyfodol o 70%, yn ogystal â’r cyfraddau uwch byth am y blynyddoedd sydd i ddod.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi ein bod ni wedi dechrau ein treial bagiau cadi gwastraff bwyd sy’n rhad ac am ddim.
 
“Yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni ar genhadaeth i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hybu ein cyfraddau ailgylchu. Er bod ein cyfradd cyfranogiad ailgylchu sych yn uchel, yn anffodus mae ein diffyg cyfranogiad mewn ailgylchu bwyd yn cael effaith negyddol ar ein cyfraddau ailgylchu cyffredinol. Rydyn ni felly’n obeithiol iawn y bydd darparu leininau am ddim yn helpu i chwalu rhwystrau a chynyddu ein lefelau cyfranogiad.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu gwastraff bwyd neu i archebu eich cadi gwastraff bwyd sy’n rhad ac am ddim, ewch i: www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd
 


Ymholiadau'r Cyfryngau