News Centre

Glasbrint ar gyfer gwella gwasanaethau

Postiwyd ar : 20 Hyd 2023

Glasbrint ar gyfer gwella gwasanaethau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu ei bum maes blaenoriaeth allweddol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf mewn strategaeth fawr newydd sy'n darparu glasbrint ar gyfer y ffordd mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol.
 
Mae dogfen ddrafft, o’r enw Cynllun Corfforaethol 2023-2028, wedi’i chyhoeddi’r wythnos hon a bydd gofyn i gynghorwyr ystyried y cynnwys allweddol dros yr wythnosau nesaf.
 
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gytuno ar restr o flaenoriaethau allweddol o’r enw ‘Amcanion Llesiant’, sy’n nodi’r hyn mae’r Cyngor yn gobeithio ei gyflawni ar ran ei gymunedau.
 
Amcanion Llesiant drafft Caerffili ar gyfer 2023-2028 yw:
 
  • Galluogi ein Plant i Lwyddo mewn Addysg
  • Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • Galluogi ein Cymunedau i Ffynnu
  • Galluogi ein Heconomi i Dyfu
  • Galluogi ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach 

Croesawodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, gyhoeddiad y cynllun drafft, “Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi ein cyfeiriad, ein blaenoriaethau a’n hamcanion ar gyfer y pum mlynedd nesaf ac mae’r Amcanion Llesiant newydd yn ein helpu i lunio gwasanaethau, targedu adnoddau a blaenoriaethu ein hymdrechion ni.”
 
“Ers ein Cynllun Corfforaethol diwethaf yn 2018, rydyn ni wedi wynebu heriau digynsail gan gynnwys pandemig byd-eang, yr argyfwng costau byw parhaus a gostyngiadau sylweddol a phellgyrhaeddol mewn cyllidebau.”
 
Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni addasu i gwrdd â’r heriau sy’n ein hwynebu, gan ganolbwyntio ar hyblygrwydd a dod o hyd i wahanol ffyrdd o gyflawni’r hyn sydd ei angen ar ein cymunedau, pan fydd ei angen arnyn nhw. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i ni ymgysylltu â’n cymunedau i ddeall anghenion ein trigolion a darparu’r cymorth cywir i ddiwallu’r anghenion hynny.”
 
“Trwy ein Cynllun Corfforaethol, rydyn ni'n gallu cymryd camau cadarnhaol a blaengar i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cymunedau.”
 
Bydd y cynllun drafft yn cael ei ystyried gan Gyd-bwyllgor Craffu’r Cyngor yr wythnos nesaf (dydd Iau 26 Hydref) cyn mynd ymlaen i'r Cabinet a’r Cyngor Llawn er mwyn cael cytundeb terfynol.
 
Gellir gweld yr adroddiad yma: https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=592&MId=14256&LLL=1


Ymholiadau'r Cyfryngau