News Centre

Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili wedi cyflawni sgôr “da” yn ei adroddiad arolygu blynyddoll

Postiwyd ar : 13 Hyd 2022

Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili wedi cyflawni sgôr “da” yn ei adroddiad arolygu blynyddoll

Mae'r arolygiad yn rhan o raglen arolygu gwasanaethau troseddau ieuenctid (‘y Gwasanaeth’) i adrodd ar effeithiolrwydd gwaith prawf a gwasanaeth troseddau ieuenctid gydag oedolion a phlant. 

Mae'r Gwasanaeth yn helpu atal a thynnu sylw plant rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol ac yn sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel a bod y risg i'r cyhoedd yn cael ei leihau.

Yn yr adroddiad, cafodd rheolwyr eu canmol am y modd maen nhw'n gwneud i staff a gwirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a chafodd ei nodi bod y gwasanaeth yn hyrwyddo “diwylliant o ofalu am ei staff ac am y plant a'r teuluoedd mae'n gweithio gyda nhw.”

Gwelodd arolygwyr fod y Gwasanaeth yn “wasanaeth ag adnoddau da sy'n canolbwyntio ar atal, tynnu sylw ac ymyrraeth gynnar i gynorthwyo plant a theuluoedd.” A bod “swyddfa'r Gwasanaeth yn un ardderchog sy'n cynnig amgylchedd diogel a thawel i'r staff a phlant.”

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Dw i mor falch bod Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili wedi cyflawni sgôr “da” yn ei adroddiad arolygu. Mae hyn yn dangos y gwaith caled y mae staff a gwirfoddolwyr yn ei wneud i sicrhau lles pobl ifanc Caerffili.

“Mae pob un o'n haelodau staff ni'n chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo plant i fyw bywydau heb drosedd – a hoffwn i ddiolch i bob aelod o staff am eu cyfraniad.” 

Dywedodd y Cynghorydd Hadyn Trollope, Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Blaenau Gwent:
Mae'r adroddiad hwn yn amlygu safon ac ansawdd uchel y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth. Hoffwn i ddiolch i'r holl staff dan sylw ac rydw i'n siŵr y bydd y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd mor uchel i blant a'u teuluoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili, ewch i: www.caerffili.gov.uk/TroseddauIeuenctid


Ymholiadau'r Cyfryngau