News Centre

​Gwaith ffordd – Cyffordd A469 â Bristol Terrace/Station Terrace, Brithdir

Postiwyd ar : 25 Hyd 2022

​Gwaith ffordd – Cyffordd A469 â Bristol Terrace/Station Terrace, Brithdir

Yn dilyn arolygiad o’r wal gynnal yn y llun uchod i’r gorllewin o’r A469, mae Adran Strwythurau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi trefnu’r canlynol:

  • Cael gwared â llystyfiant ar hyd pen y wal
  • Cael gwared â'r holl gladin maen presennol a gosod cladin newydd yn ei le
  • Cynnal a chadw'r ddarpariaeth ddraenio y tu ôl i'r wal. 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Gontractwr Gwasanaeth Tymor Adran Strwythurau'r Cyngor. Bydd y contractwr yn sefydlu symudiadau traffig unffordd wedi'u rheoli gan oleuadau traffig tair ffordd yn dechrau ar ddydd Llun 24 Hydref. Yn ystod y cyfnod hwn bydd rhan o’r lôn tua’r gogledd ar yr A469 yn cael ei chau er mwyn galluogi’r contractwr i gael man diogel i godi ei blatfformau gweithio er mwyn cael gwared â'r llystyfiant a gwneud y gwaith cladin. Yn ôl amcangyfrif, bydd y gwaith cynnal a chadw hwn yn parhau am 6 wythnos.

Derbyniwch fy ymddiheuriadau diffuant am y byr rybudd. Rydyn ni wedi bod yn cysylltu â Dŵr Cymru am beth amser ac wedi bod yn aros am gyfle priodol i wneud y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn. Byddwch chi'n ymwybodol bod gan Dŵr Cymru waith parhaus yn yr ardal hon sydd wedi gwrthdaro â'n rhaglen waith arfaethedig yn flaenorol.

Rydyn ni'n sylweddoli'r effaith y bydd rheoli traffig yn ei chael ar lif traffig yn yr ardal gyfagos. Byddwn i'n ddiolchgar am eich amynedd wrth i'r gwaith hwn gael ei gyflawni ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall y gwaith hwn ei achosi i deithwyr.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau