News Centre

Teithwyr yn cael eu hatgoffa i wirio cyn iddyn nhw deithio wrth i waith uwchraddio mawr ar reilffordd Glynebwy barhau

Postiwyd ar : 17 Hyd 2022

Teithwyr yn cael eu hatgoffa i wirio cyn iddyn nhw deithio wrth i waith uwchraddio mawr ar reilffordd Glynebwy barhau

Bydd y lein ar gau am naw diwrnod, o ddydd Sadwrn 22 Hydref, wrth i beirianwyr Network Rail wneud gwelliannau i orsafoedd ac uwchraddio traciau, gan wneud lle ar gyfer rhagor o wasanaethau rheilffordd i deithwyr yn y dyfodol. 

Oherwydd y gwaith uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd, bydd tîm o beirianwyr Network Rail yn gweithio ddydd a nos i ymestyn platfformau yng ngorsafoedd Llanhiledd a Threcelyn, adeiladu pont reilffordd newydd yn lle'r bont bresennol yn Nhrecelyn, ac adnewyddu mwy na hanner cilometr o drac ger gorsaf Crosskeys.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi darparu cyllid o £70 miliwn ar gyfer y cynllun, drwy fenthyciad gan Lywodraeth Cymru. Yna bydd yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail yn darparu £17 miliwn pellach o gyllid i uwchraddio'r signalau. 

Bydd y lein ar gau yn gyfan gwbl am naw diwrnod o ddydd Sadwrn 22 Hydref i 30 Hydref gan gynnwys y diwrnodau hynny heb unrhyw wasanaethau trên yn rhedeg. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth bws yn lle trên rhwng tref Glynebwy a Chaerdydd Canolog a dylai teithwyr wirio cyn teithio yn https://trc.cymru/ neu ar yr ap symudol. 

Hefyd, bydd Bridge Street ar gau yn gyfan gwbl wrth i beirianwyr weithio i adnewyddu pont reilffordd Trecelyn yn llawn. Bydd Bridge Street ar gau o 23:00 ddydd Gwener 21 Hydref tan 05:00 ddydd Llun 31 Hydref gyda llwybr gwyro ar waith yn ei le. 

Yn dilyn cau’r lein ym mis Hydref, bydd timau Network Rail yn parhau i wneud gwaith ar reilffordd Glynebwy tan ddiwedd haf 2023. Bydd dyddiadau cau’r lein yn y dyfodol yn cael eu darparu i deithwyr yn nes at y dyddiad. 

Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau yn 2023, mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu rhedeg gwasanaeth trên newydd bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn ogystal â’r gwasanaeth bob awr presennol rhwng Glynebwy a Chaerdydd. Bydd hyn yn helpu darparu rhagor o fynediad at swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd hamdden i gymunedau ar hyd y llinell.



Ymholiadau'r Cyfryngau