News Centre

Arweinydd am weld cynnydd ar welliannau i ffordd yr A469

Postiwyd ar : 10 Hyd 2022

Arweinydd am weld cynnydd ar welliannau i ffordd yr A469
A469 at Troedrhiwfwch,

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn am gyfarfod brys gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru i drafod atgyweiriadau strwythurol hir-ddisgwyliedig i ffordd allweddol sy'n cysylltu cymunedau Pontlotyn a Thredegar Newydd.

Mae'r Cynghorydd Sean Morgan yn galw am gynnydd ar frys yn y gwaith ar yr A469 yn Nhroedrhiw'r-fuwch, lle bu tirlithriad a symudiad sylweddol yn y tir dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r llwybr strategol allweddol wedi bod yn destun cyfyngiadau traffig un lôn ers 2020, sydd wedi achosi oedi ac anghyfleustra i deithwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Morgan, “Rydyn ni wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am ddatblygu cynllun gwella mawr ac rwy'n awyddus i gwrdd â Gweinidogion i bwysleisio pwysigrwydd y gwaith hwn ac egluro'r effaith negyddol mae'r sefyllfa barhaus yn ei chael ar y cymunedau cyfagos.”

“Rwy'n ceisio cael ymweliad safle brys gyda'r Gweinidog, yr Aelod Seneddol a'r Aelod o'r Senedd lleol, yn ogystal â swyddogion y Cyngor, er mwyn gweld yn uniongyrchol yr effaith economaidd a chymdeithasol andwyol mae'r mater hwn yn ei chael ar yr ardal leol a'r rhanbarth ehangach,” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod wedi rhoi'r gorau i gynorthwyo cynlluniau newydd ar gyfer ffyrdd ac yn adolygu pob cynnig o'r fath sydd wedi'u cyflwyno gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae Cyngor Caerffili yn hyderus mai cynllun cynnal a chadw yw'r cynllun hwn, gan ei fod yn atgyweiriad i briffordd bresennol. Bydd canlyniad yr adolygiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref.

Digwyddodd tirlithriad ar yr A469 rhwng Tirphil a Phontlotyn yn gynnar yn 2014, a oedd yn golygu bod angen cau'r ffordd am ddau fis wrth i'r gwaith adfer gael ei wneud. Yn anffodus, cafodd symudiad tir arall ei ddatgelu yn y safle hwn yn dilyn storm Dennis ym mis Chwefror 2020.

Bydd y Cyngor yn rhoi rhagor o ddiweddariadau i'r gymuned cyn gynted ag y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch y cais am arian.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau