News Centre

Dweud eich dweud ar Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd

Postiwyd ar : 24 Hyd 2022

Dweud eich dweud ar Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i lansio heddiw ar Strategaeth a Ffefrir y Cyngor ar gyfer ei Gynllun Datblygu Lleol newydd, a fydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa fath o ddatblygiadau sy'n gallu cymryd lle ym Mwrdeistref Sirol Caerffili rhwng nawr a 2035.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau personol ac ar-lein yn cael eu cynnal fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos, sy'n rhedeg tan ddydd Mercher, Tachwedd 30.

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi'r fframwaith polisi a fydd yn llywio datblygu polisïau a dyraniadau manwl y bydd y Cyngor yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

Mae’n gosod y fframwaith ar gyfer defnyddio tir, pa rannau o’r Fwrdeistref Sirol a fydd yn cael eu cynnal fel mannau agored neu eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, cymunedol a thwristiaeth.

Yn ystod cyfle ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir, gall hyrwyddwyr safleoedd gyflwyno safleoedd ymgeisiol ychwanegol i'w hystyried fel rhan o ail alwad am safleoedd ymgeisiol. Bydd y rhain yn cael eu hasesu er mwyn penderfynu eu haddasrwydd ar gyfer eu dyrannu o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae safle ymgeisiol yn safle sy'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor gan barti â buddiant (e.e. datblygwr neu berchennog tir) i'w gynnwys, o bosibl, fel dyraniad yn yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd. Cafodd yr alwad ffurfiol gyntaf am safleoedd ymgeisiol ei chynnal rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021 ac mae’r safleoedd wedi'u cyflwyno fel rhan o’r broses hon wedi’u cynnwys yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol wedi'i chyhoeddi. Dylai gael ei nodi, nad yw cyflwyno safle ymgeisiol yn golygu bod y Cyngor yn ymrwymo i fynd â'r safle ymlaen i'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Mae modd cyflwyno sylwadau ar y Safleoedd Ymgeisiol yn ystod y cyfle ymgynghori. Mae modd cyflwyno'r rhain drwy’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, sy'n cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymgynghoriad.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, “Mae’r Cynllun yn nodi’r weledigaeth, yr amcanion, y strategaeth, a’r polisïau ar gyfer rheoli datblygu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac mae’n cynnwys nifer o bolisïau cynllunio, sy’n darparu ar gyfer defnyddio tir ar gyfer tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, trafnidiaeth a mwy.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio sicrhau bod digon o gartrefi newydd i ddiwallu anghenion cymunedau sy'n tyfu yn y Fwrdeistref Sirol gan hefyd yn darparu seilwaith a chyfleusterau ffres ac yn denu buddsoddiad economaidd newydd i'r ardal.

Mae eich barn chi'n bwysig i ni, rydw i’n eich annog chi i ddarllen y dogfennau a dweud eich dweud ar-lein neu’n bersonol yn un o’n sesiynau galw heibio.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a sut y gallwch chi ddweud eich dweud ar ein gwefan Caerffili - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (caerphilly.gov.uk) a bydd hefyd ar gael yn Nhŷ Penallta, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen a phob llyfrgell. Bydd swyddogion ar gael ar sail apwyntiad yn Nhŷ Tredomen drwy gydol y cyfnod ymgynghori. Mae modd trefnu apwyntiadau trwy gysylltu â thîm y Cynllun Datblygu Lleol.

Arddangosfeydd a sesiynau galw heibio:

Canolfan Cymunedol Y Twyn, Caerffili

  • Dydd Iau 27 Hydref, 10 – 4pm
  • Dydd Sadwrn 29 Hydref, 10 – 4pm

Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen

  • Dydd Mawrth 1 Tachwedd, 9 – 5pm
  • Dydd Mercher 2 Tachwedd, 9 – 5pm
  • Dydd Iau 3 Tachwedd, 9 – 5pm
  • Dydd Sadwrn 5 Tachwedd, 10 – 1pm

Canolfan Cymunedol Maesycwmwr

  • Dydd Mawrth 8 Tachwedd, 10 – 3pm
  • Dydd Iau 10 Tachwedd, 10 – 3pm
  • Dydd Gwener 11 Tachwedd, 2 - 6pm

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

  • Dydd Llun 14 Tachwedd, 1- 4.30pm
  • Dydd Mawrth 15 Tachwedd, 10 – 2pm

Llyfrgell Rhisga

  • Dydd Mercher 16 Tachwedd, 2 – 6pm
  • Dydd Sadwrn 19 Tachwedd, 10 – 2pm

Llyfrgell Bargod

  • Dydd Llun 21 Tachwedd, 10 - 1pm
  • Dydd Mawrth 22 Tachwedd, 2 – 6pm

Os nad ydych chi'n gallu cael mynediad at wefan y Cyngor i wneud sylw, cysylltwch â thîm y Cynllun Datblygu Lleol ar CDLl@caerffili.gov.uk neu ffonio ein llinell gymorth 01443 866777 i drafod opsiynau i chi wneud eich sylwadau.

Ar gyfer trigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y digwyddiad, cysylltwch â'r tîm Cynllun Datblygu Lleol.

Y dyddiad cau i'r Cyngor gael sylwadau neu gyflwyniadau yw 30 Tachwedd 2022. Sylwch na ellir derbyn sylwadau ar ôl y dyddiad hwn.



Ymholiadau'r Cyfryngau