News Centre

Galw ar bobl yn Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddweud eu dweud ar newidiadau ffiniau arfaethedig

Postiwyd ar : 21 Hyd 2022

Galw ar bobl yn Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddweud eu dweud ar newidiadau ffiniau arfaethedig

Comisiwn Ffiniau i Gymru yn agor ymgynghoriad olaf ar fap etholaethau newydd.

Mae pobl mewn Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu hannog i ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar ei fap newydd arfaethedig o etholaethau seneddol Cymru.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion Diwygiedig, gyda newidiadau wedi’u gwneud i’r etholaethau a gynigiwyd yn wreiddiol ym mis Medi 2021.

Mae’r ymgynghoriad bellach ar agor a bydd yn cau ar 15 Tachwedd 2022. Gall trigolion ddweud eu dweud ar y cynigion yn lleol, ac yn genedlaethol ac fe’u hanogir i anfon eu barn a ydynt yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion.

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi sefydlu porth ymgynghori ar-lein lle gall trigolion weld y cynigion a gwneud sylwadau ar elfennau penodol ohonynt. Gellir cyrchu’r porth yn https://comffin-cymru.gov.uk/ neu https://comffin-cymru.gov.uk/adolygiadau/10-22/arolwg-seneddol-2023-cynigion-diwygiedig

Gall y rhai y byddai’n well ganddynt ymateb i’r ymgynghoriad drwy ddulliau heblaw’r porth ymgynghori anfon eu barn drwy e-bost at bcw@ffiniau.cymru neu drwy’r post at y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Llawr Gwaelod, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.

Wrth annog trigolion i ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Meddai Christina Harrhy, Swyddog Canlyniadau ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae’r cynigion Diwygiedig hyn gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn awgrymu newidiadau sylweddol ar gyfer etholaethau ledled Cymru.

“Yr ymgynghoriad hwn yw cyfle olaf y cyhoedd i effeithio ar y map newydd o etholaethau Cymru. “Hoffwn annog pawb i edrych ar y cynigion a dweud eich dweud cyn 15 Tachwedd.”

Rhaid i bob etholaeth a gynigir gan y Comisiwn gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.

Bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl gynrychiolaethau a ddaw i law o fewn y cyfnod ymgynghori ond mae wedi pwysleisio bod cynrychiolaethau’n cael eu cryfhau lle maent yn cynnig dewisiadau amgen ymarferol
mewn perthynas ag etholaethau cyfagos.



Ymholiadau'r Cyfryngau