News Centre

Mae £3000 wedi'i roi i ailgylchwyr gwastraff bwyd yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 19 Hyd 2022

Mae £3000 wedi'i roi i ailgylchwyr gwastraff bwyd yng Nghaerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi £3,000 ar ffurf arian parod yn ystod chwe mis cyntaf ei ymgyrch Gweddillion am Arian.

Ms Taylor, Abercarn, yw'r enillydd diweddaraf yn yr ymgyrch blwyddyn o hyd, lle mae tai yn y Fwrdeistref yn cael eu monitro ac un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, gyda phob enillydd yn derbyn £500.

Nod y fenter yw cynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd; ar hyn o bryd, mae tua 40% o drigolion y Fwrdeistref Sirol yn gwneud hyn. Mae hi hefyd yn ailddosbarthu arian cyhoeddus yn ôl i'r gymuned yn ystod yr argyfwng costau byw.

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: “Llongyfarchiadau i Ms Taylor a’n holl enillwyr blaenorol. Rydyn ni mor hapus i weld ailgylchwr gwastraff bwyd arall yn cael ei wobrwyo am ei gyfraniad at ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a, thrwy hynny, gyfrannu at y nodau cenedlaethol a byd-eang o ran datgarboneiddio.

“Rydyn ni nawr hanner ffordd drwy ein hymgyrch Gweddillion am Arian, sy'n parhau am flwyddyn, felly mae digon o gyfleoedd o hyd i ailgylchwyr gwastraff bwyd newydd a phresennol hawlio'r wobr ariannol.”

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau