News Centre

Bu 16eg Gŵyl Rygbi’r Chwe Gwlad Anabledd yn llwyddiant ysgubol

Postiwyd ar : 06 Hyd 2022

Bu 16eg Gŵyl Rygbi’r Chwe Gwlad Anabledd yn llwyddiant ysgubol
Dychwelodd Gŵyl Rygbi’r Chwe Gwlad Anabledd i'r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yr wythnos diwethaf, ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd oherwydd y pandemig Covid-19. 
 
Fe wnaeth dros 300 o bobl ifanc o 25 ysgol gymryd rhan gyda chyfle iddyn nhw brofi gwefr rygbi, datblygu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd.  Mae poblogrwydd y digwyddiad wedi tyfu dros y blynyddoedd gyda dim ond chwe ysgol yn cymryd rhan ar y dechrau. 
 
Chwaraeon Caerffili ac Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod oedd yn cynnal y digwyddiad, gyda Chlwb Rygbi'r Dreigiau yn bresennol i gynnig eu cymorth hirsefydlog, gan wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. Mae chwaraewyr rygbi’r Dreigiau wedi mynychu’r digwyddiad ers 16 o flynyddoedd, gan ysbrydoli’r rhai sy’n cymryd rhan.  Mae'r chwaraewyr yn annog y bobl ifanc i roi cynnig ar bethau newydd fel taro bagiau taclo a rholio ar y llawr. Mae'r profiadau synhwyraidd hyn wedi bod o fudd mawr i bobl ifanc sydd ag anableddau. 
 
Mae poblogrwydd a llwyddiant y digwyddiad yn dyst i waith Paul Taylor, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd a Chynhwysiant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Dywedodd, “Rwy’n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno mai’r digwyddiad hwn yw un o’n hoff ddiwrnodau’r flwyddyn. Wnes i erioed feddwl y byddai mor llwyddiannus â hyn pan gefais i a Jamie Scales o Cae'r Drindod sgwrs yn ôl yn 2005 ynglŷn â chreu’r Chwe Gwlad gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
 
Mae'r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth, gyda mwy o ysgolion a phlant yn mynychu bob blwyddyn. Rwyf wedi mwynhau eu gwylio nhw'n datblygu eu hyder dros y blynyddoedd - mae wedi bod yn wych." 
 
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Cynghorydd Chris Morgan, “Roeddwn i wrth fy modd yn mynychu’r digwyddiad hwn; roedd y wên ar wynebau’r plant yn dweud y cyfan.  Hoffwn i ddiolch i’r trefnwyr am drefnu digwyddiad mor gynhwysol ac i’r ysgolion o bob rhan o Gymru am deithio i Fwrdeistref Sirol Caerffili. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi'r flwyddyn nesaf."
 
Hoffen ni ddweud diolch yn fawr iawn i staff a gwirfoddolwyr am eu cymorth nhw, sy'n caniatáu i'r digwyddiad hwn gael ei gynnal, yn ogystal â Phrentisiaid Staff Undeb Rygbi Cymru, staff Cymuned y Dreigiau, myfyrwyr o Goleg Ystrad Mynach a Chwaraeon Caerffili. Ni fyddai’r digwyddiad wedi bod yn bosibl chwaith heb y nawdd gan y busnesau a’r elusennau lleol, AGM Embroidery ac elusen goffa Phylyp Butler. 


Ymholiadau'r Cyfryngau