News Centre

Siop Ail-ddefnyddio Penallta yn agor yn swyddogol

Postiwyd ar : 21 Hyd 2022

Siop Ail-ddefnyddio Penallta yn agor yn swyddogol
Mae plant o ysgolion cynradd lleol wedi datgan bod Siop Ail-ddefnyddio Penallta ar agor yn ystod lansiad swyddogol heddiw.
 
Mae hen ddepo Penallta wedi cael ei drawsnewid yn Siop Ail-ddefnyddio. Mae’r cyfleuster blaenllaw hwn yn rhoi cyfle gwych i ail-ddefnyddio eitemau, a oedd unwaith ar y ffordd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, a'u gwerthu nhw am fargen.
 
Mae’r Siop Ail-ddefnyddio wedi cael ei lansio mewn partneriaeth â’r elusen o dde Cymru, Wastesavers. Ar hyn o bryd, mae gan Wastesavers naw Siop Ail-ddefnyddio yn weithredol ledled de Cymru, fodd bynnag, Siop Ail-ddefnyddio Penallta yw’r cyntaf i agor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Fe wnaeth aelodau o’r gymuned leol, ynghyd â grwpiau amgylcheddol allweddol fynychu’r agoriad swyddogol, a oedd yn cynnwys taith o amgylch y cyfleusterau, arddangosiad o sut mae’r cyfleuster yn helpu i greu economi gylchol a darlleniad o “Elves and the Mess Monster”, a gafodd ei berfformio gan blant ysgol lleol.
 
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys Sioe Deithiol Costau Byw Cyngor Caerffili, gan roi cyfle i ymwelwyr siarad â staff y Cyngor, sy’n gallu helpu gydag unrhyw broblemau a allai fod gan drigolion, gan gynnwys cymorth o ran budd-daliadau, tai, dyled a bwyd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi agoriad swyddogol Siop Ail-ddefnyddio Penallta.
 
“Tra bod y Siop Ail-ddefnyddio yn rhan o’n cynnig estynedig ni i leihau, ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu, ac yn gam yn ein taith ni i ddod yn awdurdod lleol carbon niwtral, mae ailddefnyddio hefyd yn achosi nifer o fuddion cymdeithasol ac economaidd, megis rhoi cyfle i siopwyr ddod o hyd i eitemau o ansawdd da am brisiau gwych, sy’n bwysicach nawr nag erioed.”
 
Ychwanegodd Alun Harries, Rheolwr Elusen Wastesavers: “Y llynedd, fe ddaeth ein Siopau Ail-ddefnyddio ledled de Cymru o hyd i gartrefi newydd ar gyfer dros 416,000 o eitemau, a fyddai fel arall wedi cael eu hanfon i sgipiau ailgylchu. Mae gan ailddefnyddio fuddion amgylcheddol enfawr, ac mae ailddefnyddio eitemau o’r cartref yn arbed mwy o ynni - dylen ni i gyd fod â chyfleuster ac adnodd i’w gyflawni.
 
“Fel elusen, rydyn ni’n ymdrechu i gyflawni gwaelodlin driphlyg ar sail cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac mae unrhyw elw sy’n cael ei wneud yn cynorthwyo ein rhaglenni cynhwysiant cymdeithasol ac addysg ni.”
 
Mae Siop Ail-ddefnyddio Penallta wedi’i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Penallta, South Road, Hengoed CF82 7ST, ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos o 9.30am tan 4.30pm.
 
Am ragor o wybodaeth ynghylch Siop Ail-ddefnyddio Penallta, ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Recycle-and-reduce-waste/Penallta-Reuse-Shop?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau