News Centre

Cychwyn ar safle datblygiad Ysgol 21ain Ganrif newydd

Postiwyd ar : 31 Hyd 2022

Cychwyn ar safle datblygiad Ysgol 21ain Ganrif newydd
Mae gwaith adeiladu nawr yn digwydd ar ddatblygiad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon.
 
Cafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin mai Andrew Scott Ltd fyddai’r datblygwyr i fynd ymlaen â’r prosiect a fydd yn gweld safle gwag Ysgol Uwchradd Cwmcarn yn cael ei drawsnewid yn ddatblygiad newydd sbon.
 
Mae’r ysgol newydd yn cael ei hariannu ar y cyd gan yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif, gynt) a bydd yn cymryd lle’r Ysgol Gynradd Gymraeg bresennol, gan greu darpariaeth ar gyfer 420 o ddisgyblion, meithrinfa, 2 ddosbarth canolfan adnoddau arbennig, ac Uned Gofal Plant. Bydd y safle yn cynnwys mannau dysgu modern a golau, mynediad gwell i gerddwyr a cherbydau, a man dysgu a chwarae eang yn yr awyr agored ar gyfer darpariaeth yr ysgol a’r gymuned ehangach, gyda dyddiad disgwyliedig i gwblhau’r gwaith ym mis Medi 2023.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Mae Cyngor Caerffili wedi ymrwymo i godi safonau ein hysgolion a gwella ansawdd yr amgylchedd dysgu.
 
“Mae hwn yn amser cyffrous iawn i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld cymuned yr ysgol yn tyfu. Bydd yr adeilad newydd yn gwella’r amgylchedd dysgu ymhellach ar gyfer y staff a’r disgyblion.”
 
Dywedodd y Pennaeth dros dro, Helen Marsh, “Fel cymuned ysgol gyfan rydyn ni’n llawn cyffro i weld y gwaith yn dechrau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r cynnydd gyda’r disgyblion nawr ac yn ystod y datblygiad. Mae dyfodol Ysgol Cwm Gwyddon yn gyffrous, gyda chwricwlwm newydd ac ysgol newydd a fydd yn ein galluogi i wneud y gorau glas o’r amgylchoedd newydd.”
 
Ychwanegodd Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr, Andrew Scott Ltd, “Mae’n gyfle bendigedig i ni fod yn bartner cyflenwi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer yr Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon newydd ac rydyn wrth ein bodd i gychwyn ar y cynllun. Rydyn ni’n frwdfrydig, yn enwedig, i ddechrau ein prosiect ymgysylltu â’r ysgol a chymuned.”
 
Mae’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn gydweithriad rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Mae’n rhaglen arwyddocaol, hir-dymor a buddsoddi cyfalaf strategol gydag amcan o greu cenhedlaeth Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yng Nghymru.
 
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.


Ymholiadau'r Cyfryngau