News Centre

Trefniadau Prydau Ysgol Am Ddim – Hanner Tymor mis Hydref

Postiwyd ar : 25 Hyd 2022

Trefniadau Prydau Ysgol Am Ddim – Hanner Tymor mis Hydref

O ganlyniad i’r Argyfwng Costau Byw parhaus a’r pwysau y mae hyn yn ei roi ar deuluoedd ag incwm isel yn ystod gwyliau’r ysgol, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cynnig o ddarpariaeth gwyliau’r ysgol i’r dysgwyr hynny sy’n derbyn prydau ysgol am ddim hyd at ddiwedd hanner tymor mis Chwefror 2023. (bydd hyn yn cynnwys gwyliau’r ysgol ym misoedd Hydref, Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023).

Fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach ddim yn dosbarthu prydau ysgol am ddim i gartrefi disgyblion yn ystod gwyliau ysgol.

Bydd taliad wythnosol o £19.50 y plentyn (£3.90 y dydd) yn cael ei wneud i rieni/gwarcheidwaid cymwys. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Swyddfa'r Post i ddarparu'r taliad hwn.

Bydd rhieni yn derbyn gohebiaeth gan Swyddfa’r Post erbyn dydd Gwener 4 Tachwedd gyda gwybodaeth bellach am sut i hawlio’r taliad hwn.



Ymholiadau'r Cyfryngau