News Centre

Ffilm drôn yn dangos ein cyfleusterau chwaraeon trawiadol ledled y Fwrdeistref Sirol

Postiwyd ar : 14 Hyd 2022

Ffilm drôn yn dangos ein cyfleusterau chwaraeon trawiadol ledled y Fwrdeistref Sirol
Dros y flwyddyn diwethaf, bu gwaith uwchraddio a gwella mawr i’n cyfleusterau chwaraeon ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, mae canolfan hoci newydd wedi’i hadeiladu, gyda chae chwaraeon Astroturf 2G, aml-ddefnydd i bob tywydd. Cafodd y Trac Athletau cyntaf yng Nghaerffili ei agor – mae’r trac rhedeg chwe lôn, 300 metr o hyd, â llifoleuadau hefyd yn cynnwys ardal ychwanegol ar gyfer digwyddiadau athletau oddi ar y cae megis y naid hir, naid uchel, taflu’r maen a gwaywffon. Mae nifer o gaeau Astro Turf wedi cael eu huwchraddio i gaeau 3G, sydd nawr o fudd i ysgolion, y gymuned, a chlybiau a thimoedd lleol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae’r ffilm anhygoel yn dangos ansawdd ein cyfleusterau o safon fyd-eang sydd nawr ar gael yn y Fwrdeistref Sirol. Mae agor y cyfleusterau yma yng Nghaerffili yn rhoi cyfle gwych i athletwyr o bob gallu. Bydd y cyfleusterau yn galluogi oedolion a phlant i gadw’n actif, neu ysbrydoli eraill i ddefnyddio’r cyfleusterau lleol heb angen teithio y tu allan i’r Fwrdeistref Sirol.
 
Mae’r cyfleusterau yma yn rhoi cyfle i’r gymuned gadw’n heini, aros yn actif a chynnal ffordd iach o fyw. Rydyn ni’n darparu’r adnoddau i’r genhedlaeth nesaf o sêr athletau i allu datblygu yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”
 
Gwyliwch y fideo isod i weld y cyfleusterau safon uchel ledled y Fwrdeistref Sirol sydd ar gael i chi eu defnyddio!
 
Gwyliwch y fideo yma! 


Ymholiadau'r Cyfryngau