News Centre

Ymdrechion y Cyngor i wneud Caerffili yn fwrdeistref wyrddach

Postiwyd ar : 26 Hyd 2022

Ymdrechion y Cyngor i wneud Caerffili yn fwrdeistref wyrddach
Mae adroddiad diweddar yn tynnu sylw at yr ymdrechion mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'u gwneud i roi ‘Strategaeth Seilwaith Gwyrdd’ ar waith.

Cafodd yr adroddiad diweddaru ei gadarnhau gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cyngor mewn cyfarfod ar 25 Hydref.

Yn yr adroddiad, mae nifer o fentrau sydd wedi cael eu cyflawni'n llwyddiannus gan y Cyngor ers gweithredu ei Strategaeth Seilwaith Gwyrdd ym mis Tachwedd 2020.  Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys plannu coed ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) a Groundwork Cymru, lle bu gwirfoddolwyr yn plannu tua 4,500 o goed yn yr ardal.

 
Hefyd, lansiodd Tîm Cefn Gwlad y Cyngor ei ymgyrch 'Plannu Llain er budd Peillwyr' yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021.  Nod yr ymgyrch oedd ailgysylltu trigolion, busnesau ac ysgolion â byd natur drwy dyfu llain o flodau gwyllt a chreu leiniau bach o ddolydd, gan ddarparu blodau brodorol â chyfoeth o neithdar a phaill ar gyfer peillwyr. 

Hefyd yn ystod yr haf diwethaf, lansiodd y tîm ymgyrch ‘Priffordd Draenogod’, lle roedd pecynnau ar gael i drigolion greu priffyrdd lleol hygyrch ar gyfer draenogod. Roedd pob pecyn yn cynnwys plac i amgylchynu'r twll mewn ffensys i ddraenogod gael mynediad at erddi, twnnel arolygu, a chanllaw adnabod ar gyfer olion traed, gan greu coridorau bywyd gwyllt newydd a chysylltiadau â'r rhai presennol.

Mae gwaith hefyd wedi’i wneud, fel rhan o gynllun Grant Gwent Gydnerth, ar hyd tair afon allweddol y Fwrdeistref Sirol: Afon Rhymni, Afon Sirhywi ac Afon Ebwy. Mae hyn wedi cynnwys glanhau'r afonydd a gosod blychau ar gyfer siglennod, trochwyr a dyfrgwn ar hyd coridorau'r afonydd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Fannau Gwyrdd, “Mae’r adroddiad hwn yn amlygu maint y gwaith sy’n cael ei wneud yn y Fwrdeistref Sirol gan Dîm y Strategaeth Mannau Gwyrdd.  Mae gofalu am yr amgylchedd a lleihau ein hôl troed carbon yn gyfrifoldeb i bawb ac mae’n wych gweld yr amrywiaeth o brosiectau sy’n cael eu cynnal gennym ni fel Cyngor, ond hefyd y rhai sy’n ymgysylltu â thrigolion a chymunedau lleol.
 
“Mae’r tîm hefyd yn gwneud llawer iawn o waith ar lefel strategol i ystyried rheoli a gwella yn y dyfodol ar gyfer mannau gwyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol.  Cafodd seminar ei gynnal yn diweddar i aelodau hefyd, gyda sawl un yn mynychu, lle’r oedd Cynghorwyr yn hynod gefnogol i’n gwaith ar fioamrywiaeth.” 


Ymholiadau'r Cyfryngau