News Centre

Hwb ariannol ar gyfer cynlluniau adfywio

Postiwyd ar : 21 Hyd 2022

Hwb ariannol ar gyfer cynlluniau adfywio

Mae amrywiaeth o brosiectau adfywio cyffrous ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi derbyn hwb ariannol o ganlyniad i benderfyniad cyllid gan Gabinet y Cyngor.

Mae cyfanswm o dros £570 mil wedi’i ddyrannu tuag at nifer o ddatblygiadau gan gynnwys:

Cynnig Marchnad Newydd Caerffili - mae £450,000 wedi'i sicrhau i fwrw ymlaen â chynlluniau cyffrous i greu datblygiad marchnad newydd deniadol ar Park Lane yng nghanol y dref. Bydd y farchnad newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, yn darparu 28 o unedau bach a lle ar gyfer masnachwyr marchnad dros dro ychwanegol.

Trawsnewid Canol Trefi - mae £111,000 wedi’i sicrhau i weithredu fel arian cyfatebol tuag at nifer o gynlluniau fel rhan o raglen Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae'r elfennau allweddol yn ymwneud â gwelliannau mannau cyhoeddus yng nghanol trefi Bargod a Choed Duon ynghyd â gwelliannau i Barc Dafydd Williams, Caerffili.

Maes Parcio Pont-y-meistr - Mae bron i £50,000 wedi'i sicrhau i ddarparu maes parcio gwell ym Mhont-y-meistr. Bydd ailagor hen faes parcio segur yn helpu i ddatrys y problemau parcio ar y stryd yn yr ardal agos, a fydd yn ei dro yn helpu i adfywio'r economi leol.

Croesawodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili, y buddsoddiad, “Mae'r pecyn ariannu hwn yn fuddsoddiad mewn trefi ac mae'n dangos ein harwydd o fwriad i adfywio. Byddwn ni'n parhau i gyflwyno gwelliannau ar draws y Fwrdeistref Sirol i wella ein cymunedau lleol.”

“Bydd prosiectau fel y cynnig marchnad newydd yng Nghaerffili yn helpu i roi bywyd newydd i’r stryd fawr ac yn rhoi hwb y mae mawr ei angen i’r economi leol.”

Ceir manylion llawn am y prosiectau adfywio cyffrous hyn yma:

https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s42869/Regeneration%20Board%20-%20Project%20Proposals.pdf?LLL=0



Ymholiadau'r Cyfryngau