News Centre

Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf 2022

Postiwyd ar : 14 Hyd 2022

Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf 2022
Cyn bo hir, bydd Caerffili yn paratoi ar gyfer adeg fwyaf rhyfeddol y flwyddyn, gyda Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Bydd Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn cael eu cynnal yn Ystrad Mynach, Coed Duon, Caerffili a Bargod, gan gynnig popeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod allan Nadoligaidd. Bydd pob marchnad yn cynnwys rhwng 20 a 50 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.

Mae canol y trefi dan sylw yn cynnig cyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol - mae dewis o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr a lleoliadau bwyta allan bendigedig.
 
Hefyd, bydd gweithdai gwneud llusernau lle gall trigolion baratoi eu llusernau nhw ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Rydyn ni'n gyffrous iawn i ddod â Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn ôl i bedwar o ganol trefi Bwrdeistref Sirol Caerffili eto eleni.  Dylid hefyd gefnogi busnesau sydd wrth galon ein strydoedd mawr ni ac rwy'n annog trigolion sy’n ymweld â’r marchnadoedd hyn i siopa’n lleol hefyd a helpu busnesau bach i ffynnu’r Nadolig hwn.”
 
Digwyddiad Lleoliad Dyddiad Amser
Cynnau goleuadau'r Nadolig Canol Tref Caerffili (CF83 1JL) Dydd Gwener 18 Tachwedd 5pm - 7pm
Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach Canol Tref Ystrad Mynach (CF82 7AB) Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 9am – 5pm
Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni Canolfan Gymunedol y Twyn (CF83 1JL) Dydd Sadwrn 19 Tachwedd a Dydd Sul 20 Tachwedd 10am – 5pm
Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon Canol Tref Coed Duon (NP12 1AB) Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 9am – 5pm
Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni Llyfrgell Caerffili (CF83 1JL) Dydd Sadwrn 26 Tachwedd a Dydd Sul 27 Tachwedd 10am – 5pm
Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili Canol Tref Caerffili (CF83 1JL) Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 9am – 8pm
Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni I'w gadarnhau - Yn dod i ben ym maes parcio'r Twyn (Gorffen yn CF83 1JL) Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 6.30pm
Llawr Sglefrolio Bargod Canol Tref Bargod (CF81 8NX) Dydd Mercher 7 Rhagfyr – Dydd Sul 11 Rhagfyr 10am – 7.30pm
Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Bargod Canol Tref Bargod (CF81 8QT) Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 9am – 5pm
 

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, ewch i www.visitcaerphilly.com, ffonio Canolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

 


Ymholiadau'r Cyfryngau