News Centre

Cyngor Caerffili ar restr fer dwy wobr fawreddog yng Ngwobrau Tai Cymru

Postiwyd ar : 20 Hyd 2022

Cyngor Caerffili ar restr fer dwy wobr fawreddog yng Ngwobrau Tai Cymru
Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Tai Cymru eleni.

Mae’r gwobrau blynyddol, sy’n cael eu cynnal gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn dathlu’r cyflawniadau a’r arloesedd sydd wedi'i weld ar draws y sector tai yng Nghymru a’r effaith maen nhw'n eu cael ar fywydau cymaint o bobl.
 
Mae Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth y Cyngor ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Tîm Tai’r Flwyddyn’. Mae'r tîm yn rhoi o’u hamser i gynorthwyo rhai o drigolion mwyaf bregus y Fwrdeistref Sirol yn ystod cyfnod o anhawster ariannol.  Mae ymrwymiad y tîm wedi cael ei amlygu'n arbennig drwy gydol y pandemig Covid-19 ac yng nghanol yr argyfwng costau byw presennol.
 
Mae’r Cyngor hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer am ei ddull ‘Cyfathrebu mewn Argyfwng’, oherwydd y ffordd hyblyg y gwnaeth staff tai weithio ac addasu dulliau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gyrraedd pob tenant yn ystod pandemig Covid-19.   Roedd hyn yn hanfodol er mwyn cyfleu negeseuon allweddol i denantiaid a’u gwneud nhw'n ymwybodol o newidiadau i wasanaethau, gan hefyd sicrhau nad oedd unrhyw berson agored i niwed yn cael ei adael heb gymorth yn ystod cyfnod hynod heriol i lawer o bobl.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae Gwobrau Tai Cymru wir yn amlygu'r goreuon o ran darparu gwasanaethau tai a chymorth yng Nghymru.  Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dau gategori eleni yn anrhydedd anhygoel ac yn dangos ymdrechion tîm Cartrefi Caerffili i wneud eu gorau glas i gynorthwyo tenantiaid; Hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o hynny.”


Ymholiadau'r Cyfryngau