News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar rent

Postiwyd ar : 11 Hyd 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar rent
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa tenantiaid i roi eu barn ar y rhent y maen nhw'n ei dalu.

Mae gofyn i denantiaid lenwi arolwg byr i ddweud wrth y Cyngor a ydyn nhw'n credu bod eu rhent yn deg, yn fforddiadwy ac a yw'r gwasanaeth y maen nhw'n ei dderbyn yn rhoi gwerth am eu harian.

Mae'r arolwg ar gael ar-lein; bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd un person yn ennill £150 ar ffurf talebau siopa a thri pherson arall yn ennill £50.

Os nad oes modd i unrhyw un lenwi'r arolwg ar-lein, neu oes oes angen cymorth ar unrhyw un,, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433 / 811434 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.  
 


Ymholiadau'r Cyfryngau