News Centre

Tîm Cartrefi Caerffili yn croesawu 10 prentis newydd

Postiwyd ar : 19 Hyd 2022

Tîm Cartrefi Caerffili yn croesawu 10 prentis newydd
Yn ddiweddar, croesawodd y tîm sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau tai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 10 prentis newydd i’w weithlu; gan ymuno â 9 prentis a gafodd eu penodi gan y tîm ym mis Ionawr eleni.
 
Mae Cartrefi Caerffili wedi recriwtio’r prentisiaid ledled nifer o grefftau, gan gynnwys trydanwyr, plymwyr, plastrwyr a seiri coed, i gynorthwyo ei wasanaethau atgyweirio a gwella.
 
Croesawodd Robert Price, partner cyflenwi ffynhonnell unigol y Cyngor, y prentisiaid newydd i Dîm Caerffili hefyd gyda rhoddion o becynnau offer i’w helpu nhw ar eu ffordd yn eu gyrfaoedd newydd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ogystal â darparu cyfleoedd amhrisiadwy i’r rhai sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd i gael profiad yn y gwaith, mae prentisiaethau yn ein helpu ni sicrhau bod y cyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd gennym ni yng Nghartrefi Caerffili yn cael eu cadw er budd ein tenantiaid. 

“Hefyd, mae'n gadarnhaol iawn gweld carfan eleni yn adlewyrchu ein cymdeithas fodern, gyda mwy o brentisiaid benywaidd yn ymuno. Hoffwn i ddymuno’r gorau i bob un o’n prentisiaid yn eu rolau newydd a diolch i Robert Price am eu rhoddion hael i’w cynorthwyo ar eu teithiau.”

Ychwanegodd Molly Pike, Cyfarwyddydd Marchnata Robert Price, “Mae Robert Price yn falch iawn o gynorthwyo’r garfan hon o brentisiaid newydd gyda’u hoffer cychwyn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r bechgyn a’r merched, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gyd wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau a’u profiad. Mae prentisiaethau'n ffordd wych o ddechrau taith fel crefftwr proffesiynol a byddem ni'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn crefft i archwilio cyfleoedd prentisiaeth yn eu hardal leol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau