News Centre

Cabinet yn cymeradwyo gwell bwerau gorfodi

Postiwyd ar : 11 Hyd 2022

Cabinet yn cymeradwyo gwell bwerau gorfodi
Mae pwerau gorfodi wedi’u gwella ym mwrdeistref sirol Caerffili, diolch i gymeradwyaeth Cabinet y Cyngor.

Yn ystod cyfarfod ar 5 Hydref, cymeradwyodd aelodau’r Cabinet bwerau ychwanegol i swyddogion o fewn Is-adran Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor o dan y Deddfau Seneddol canlynol, er mwyn gorfodi’r ddeddfwriaeth a chyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â'r canlynol:
  • Deddf Arfau Ymosodol 2019 - mae hon yn cynnwys mesurau deddfwriaethol newydd i reoli gwerthiant cyllyll a chynhyrchion cyrydol, ac mae'n cyflwyno troseddau newydd yn ymwneud â'u meddiant a'u defnydd. Mae’r Ddeddf yn creu trosedd newydd o werthu cynnyrch cyrydol i berson o dan 18 oed.
  • Deddf Meddyginiaeth a Dyfeisiau Meddygol 2021 - Mae’r Ddeddf wedi’i dwyn i rym yn sylweddol er mwyn galluogi cyhoeddi nifer o hysbysiadau gorfodi i bobl sy’n gyfrifol am farchnata a chyflenwi Dyfeisiau Meddygol sydd ddim yn cydymffurfio â safonau perthnasol.
  • Deddf Ynni 2011 - Mae’r Rheoliadau’n sefydlu lefel isaf o effeithlonrwydd ynni ar gyfer eiddo domestig ac annomestig, sy’n cael ei rentu’n breifat ac wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r rhai sydd isaf ar y rhestr o ran effeithlonrwydd ynni h.y. y rhai sydd â sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o F neu G.
  • Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhenti Tir) 2022 - Mae’r Ddeddf yn rhoi diwedd ar renti tir ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo lesddaliad preswyl hir newydd yng Nghymru a Lloegr a bydd yn gwneud perchentyaeth yn decach ac yn fwy tryloyw i filiynau o lesddeiliaid yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd “Mae’r newidiadau hyn i Gyfansoddiad y Cyngor nid yn unig yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion statudol, ond hefyd yn rhoi’r awdurdod sydd ei angen ar ein swyddogion i orfodi’r pwerau hyn yn effeithiol er mwyn diogelu ein trigolion.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau