News Centre

Grŵp cyswllt â chymunedau Bryn am gael ei sefydlu

Postiwyd ar : 19 Hyd 2022

Grŵp cyswllt â chymunedau Bryn am gael ei sefydlu
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau ymgysylltu â’r gymuned er mwyn mynd i’r afael â phryderon lleol sydd wedi'u codi ynghylch Bryn Group, gan gynnwys sefydlu grŵp cyswllt sy’n cynnwys trigolion a rhanddeiliaid eraill.
 
Mae Bryn Group, sydd wedi ei leoli yng Ngelligaer, yn gweithredu gwaith trosglwyddo a thrin gwastraff, yn ogystal â fferm laeth a chwarel ar y safle. Mae’r safle’n un cymhleth gyda sawl gweithrediad a gweithgaredd, sy’n cael eu rheoleiddio’n rhannol gan dimau Iechyd yr Amgylchedd a Chynllunio’r Cyngor ac yn rhannol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
Yn ystod cyfarfod ar 19 Hydref, cytunodd aelodau'r Cabinet ar nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r pryderon yn y gymuned ynghylch gwaith Bryn Group.  Yn ogystal â sefydlu grŵp cyswllt, cytunodd y Cabinet i sefydlu tudalen we bwrpasol gyda gwybodaeth am waith y cyrff rheoleiddio sy'n gyfrifol am wahanol elfennau o'r safle.  Mae ymweliadau Cynghorwyr ac aelodau o'r cyhoedd hefyd wedi'u cynllunio, er mwyn i bobl gael gwell dealltwriaeth o sut mae'r safle'n gweithredu.
 
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, “Mae’r Cyngor yn cydnabod pryderon sy’n cael eu codi gan y gymuned leol ac rydyn ni'n rhoi ein sicrwydd ni bod y rhain yn cael eu trin.  Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â thrigolion, aelodau etholedig lleol a Bryn Group i fynd i’r afael â materion o’r fath a'r Cabinet yn cymeradwyo datblygu’r cynlluniau hyn yw’r cam cyntaf yn y broses hon.”

Ychwanegodd Jennifer Price, o Bryn Power Ltd, “Rydyn ni’n croesawu ailddechrau’r grŵp cyswllt ar ôl seibiant mor hir. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd yn manteisio ar y cyfle i ymweld â’r safle. Mae diddordeb mawr gennym ni mewn gweld a fydd y dudalen we yn helpu drosglwyddo gwybodaeth o’r grŵp cyswllt yn ôl i’r gymuned a’r cyhoedd ehangach ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau