News Centre

​​Safle ailgylchu gwastraff Nine Mile Point – Datganiad gan y Cynghorydd Philippa Marsden

Postiwyd ar : 06 Hyd 2021

​​Safle ailgylchu gwastraff Nine Mile Point – Datganiad gan y Cynghorydd Philippa Marsden
Cllr Philippa Marsden, Leader of Council

“A minnau'n Arweinydd Cyngor Caerffili ac aelod ward lleol ar gyfer Ynys-ddu, rydw i eisiau rhoi sicrwydd i'r gymuned gyfan fy mod i'n cydnabod ac yn deall yn llwyr y pryderon gwirioneddol am y safle ailgylchu gwastraff newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Nine Mile Point.

Yn wir, rydw i'n rhannu llawer o'r pryderon hyn, gan nad yw'r un ohonom ni eisiau gweld unrhyw effeithiau niweidiol ar fywydau trigolion nac ar yr amgylchedd lleol.

Yn ddiweddar, fe geisiodd preswylydd lleol gael adolygiad barnwrol o'r penderfyniad cynllunio, ond, ar ôl ystyried y dadleuon cyfreithiol a gafodd eu cyflwyno gan y ddwy blaid, cafodd yr her ei gwrthod gan yr Uchel Lys.

Er fy mod i'n gallu deall y rhwystredigaeth ynghylch gwrthod yr her, mae'n golygu nad oes modd herio'r caniatâd cynllunio gwreiddiol a gafodd ei roi 2015 ymhellach, a bod gan y datblygwr, Hywel NMP, yr hawl i adeiladu'r cyfleuster a gwneud cais am y drwydded angenrheidiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gan fod hwn yn fater mor sensitif i holl drigolion Cwm Sirhywi Isaf, mae'n bwysig ein bod ni'n agored, yn onest ac yn dryloyw ynghylch y broses benderfynu hyd yma. Felly, rydw i wedi cyfarwyddo uwch swyddogion, sy'n annibynnol ar y mater hwn, i gynnal ymchwiliad yn unol â'n gweithdrefn gwyno swyddogol ni.

Mae hon yn broses ffurfiol, ragnodedig a fydd yn caniatáu i'r holl bryderon sydd wedi'u codi gan y gymuned i gael eu harchwilio'n llawn. Os na fydd canlyniad yr ymchwiliad hwn yn foddhaol, bydd modd atgyfeirio'r mater, yn y pen draw, at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, felly, rydw i'n gobeithio bod hyn yn rhoi sicrwydd i'r gymuned y bydd ymchwiliad llawn a thrylwyr i'r ffeithiau.

A minnau hefyd yn byw yn yr ardal, byddwch chi'n deall nid yn unig fy mod i eisiau cadarnhau'r ffeithiau, ond fy mod i hefyd yn hynod awyddus i sicrhau bod y datblygiad yn Nine Mile Point yn bodloni'r mesurau rheoli amgylcheddol angenrheidiol. Mae hi hefyd yn bwysig bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i reoleiddio a monitro'r holl waith ar y safle yn fanwl.

Fe wnes i gwrdd ag uwch swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ar 27 Medi i nodi'r gofynion hynny ac i ofyn am sicrwydd, yn uniongyrchol gan y rheoleiddiwr, ynghylch y cynlluniau ar gyfer y cyfleuster. Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol ac roedd yr wybodaeth a gafodd ei rhannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru am y cynlluniau ar gyfer y safle yn galonogol.

Rydw i hefyd wedi gofyn i uwch swyddogion gwrdd â chynrychiolwyr Hywel NMP ac, eto, yn ôl y sôn, roedd y cyfarfod yn gadarnhaol.

Mae'r cwmni ei hun yn cydnabod natur sensitif y datblygiad ac yn hynod awyddus i ddechrau cwrdd â thrigolion i feithrin partneriaeth sy'n seiliedig ar gydymddiriedaeth. Mae'n bosibl y bydd yn cymryd peth amser i ni ddatblygu ymddiriedaeth, yn enwedig o'r sefyllfa bresennol, felly, mae swyddogion wedi gofyn iddyn nhw ddechrau gweithio'n uniongyrchol gyda'r gymuned ac i gynnal cyfarfod cychwynnol yn ystod yr wythnosau nesaf.”



Ymholiadau'r Cyfryngau