News Centre

Cynlluniau yn parhau ar gyfer Tiny Forest Caerffili

Postiwyd ar : 22 Hyd 2021

Cynlluniau yn parhau ar gyfer Tiny Forest Caerffili

Mae cynlluniau ar gyfer Tiny Forest ym Mharc Morgan Jones, Caerffili yn mynd rhagddynt, wrth i gynlluniau i blannu 600 o goed gan eu rhannu. 

Bydd Climate Action Caerffili Gweithredu Hinsawdd (CACGH) yn cynnal digwyddiad, fydd yn cael ei gynnal ar Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang (6 Tachwedd), fydd yn cynnwys plannu 600 o goed, yn ogystal â gweithgareddau i'r teulu i gyd. 

Bydd y digwyddiad yn nodi cychwyn Tiny Forest Caerffili, coedwig fechan iawn sy'n cael ei chreu gan ddefnyddio dull a ddatblygwyd gan y botanegwr o Siapan, Akira Myawaki. Maent wedi eu dylunio i dyfu 10 gwaith yn gynt na choedwig gonfensiynol, ac mae'n rhoi llu o fuddion i helpu mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Yn ystod y digwyddiad ym Mharc Morgan Jones, bydd cyfle i blannu coed a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill. Bydd yr artist lleol Kate Raggett o Arty Parky yno yn creu darn o gelf daear o ddeunyddiau naturiol sydd yn y Parc.

Mae CACGH yn awyddus i sicrhau bod ffocws addysgiadol a bydd Tiny Forest yn cynnwys ardal ystafell ddosbarth fydd yn gallu cael ei ddefnyddio gan ysgolion a'r gymuned.  Bydd yn rhoi cyfle i blant lleol blannu coed, gweithgaredd na fyddai'n bosib fel arfer yn yr ysgol, a'r bwriad yw meithrin cysylltiad â natur mewn pobl ifanc.

Mae CACGH hefyd yn gobeithio bydd aelodau'r gymuned yn cymryd rhan yn y prosiect, yn enwedig ar y pwynt yma, fel bod pobl yn teimlo eu bod wedi cysylltu â'r ardal ac yn edrych ymlaen at ei ddefnyddio yn y dyfodol. Maent felly yn annog aelodau'r gymuned, trigolion a theuluoedd i fynd i helpu plannu’r coed.

Dywedodd y cynghorydd lleol Jamie Pritchard "Ry'n ni'n edrych ymlaen i'r gwaith i ddechrau ar Tiny Forest Caerffili.  Mae hwn yn brosiect cyffrous fydd yn helpu gwell bioamrywiaeth a chynnig nifer o fuddion i amddiffyn ein hamgylchedd lleol. Mae'n bleser cael bod yn rhan o rywbeth fydd yn cael effaith gadarnhaol yn y gymuned."

Dywedodd Terry Gordon, gwirfoddolwr gyda'r grŵp: "Maer' prosiect Tiny Forest eisoes wedi ysbrydoli llawer o ddiddordeb yn y gymuned ac mae nifer o fusnesau lleol wedi gwneud cyfraniadau hael i'r prosiect." 

Mae'r digwyddiad am ddim hyn yn dod yn sgil cyllid gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddi gan CGGC a bydd yn cael ei gynnal ym Mharc Morgan Jones, Caerffili ar 6 Tachwedd rhwng 11am a 3pm.



Ymholiadau'r Cyfryngau