News Centre

Gwefan newydd i helpu atal digartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 05 Hyd 2021

Gwefan newydd i helpu atal digartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
L - R: Liam Roberts, Shelly Jones, Cllr Lisa Phipps, Kerry Denman, Byron Jones, Sadie O'Connor & Paul Owen (DWP) at the launch of the new website
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio gwefan newydd sy'n ceisio helpu atal digartrefedd.

Mae gwefan Allweddi Caerffili yn darparu gwybodaeth i landlordiaid preifat am gynllun sy'n paru pobl ag eiddo addas ac, yna, yn cynnig cymorth i'r tenant a'r landlord i gynnal y denantiaeth. Tîm Atebion Tai y Cyngor sy'n arwain y gwasanaeth, ac mae'n cael ei ddarparu am ddim – gan gynnwys ymweliadau a gwaith monitro chwarterol.

Mae'r prosiect – sydd wedi dathlu ei ben-blwydd yn dair oed yn ddiweddar ac sydd wedi cofrestru dros 100 eiddo ar gyfer y cynllun – wedi helpu llawer o deuluoedd ac unigolion a fyddai, fel arall, wedi eu cael eu hunain yn ddigartref. Mae hyn wedi cynnwys dod o hyd i 15 eiddo ar anterth y pandemig er mwyn symud cleientiaid digartref o lety dros dro i eiddo rent preifat tymor hir.

Mae tîm Cartrefi Caerffili hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau, diolch i grant trwy ei Gronfa Gymorth Hyblyg, i ddarparu cymorth gwell i denantiaid. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chanolfannau Gwaith lleol a Rheolwr Partneriaeth pwrpasol i helpu i gynnal tenantiaethau, cynyddu hyfforddiant, cyfleoedd addysg a chyflogaeth, lleihau tlodi a chynyddu gallu ariannol cartrefi trwy sefydlu taliadau uniongyrchol i landlordiaid i atal ôl-ddyledion rhent.

Meddai'r Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet dros Dai y Cyngor, “Mae Allweddi Caerffili yn brosiect arloesol, a'r cyntaf o'i fath i gael ei gynnal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r effaith ar fynd i'r afael â digartrefedd, a'i atal, ac wedi bod yn sylweddol.

“Rwy'n llawn cynnwrf ynghylch lansio'r wefan newydd hon, sy'n darparu porth i landlordiaid presennol a darpar landlordiaid i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a'r manteision y mae'n eu cynnig iddyn nhw, yn ogystal â darparu gwybodaeth i denantiaid.”

Mae gwefan Allweddi Caerffili ar gael yn www.caerphillykeys.co.uk/cy. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm yn uniongyrchol ar 01443 873564 neu anfon e-bost i AllweddiCaerffili@caerffili.gov.uk
 


Ymholiadau'r Cyfryngau