News Centre

Gwelliannau'n harddu ‘porth gwyrdd’ Caerffili

Postiwyd ar : 20 Hyd 2021

Gwelliannau'n harddu ‘porth gwyrdd’ Caerffili
L - R: Bethan Smith (CCBC), Cllr Shayne Cook, Cllr Eluned Stenner & Cllr Colin Elsbury
Mae ‘porth gwyrdd’ i dref Caerffili wedi'i harddu yn sgil partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r gymuned leol.

Llwyddodd y Cyngor i gael grant gan gronfa Pyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd sydd wedi helpu i ddarparu gwelliannau ym Mharc Dafydd Williams, sy'n amgylchynu Castell Caerffili. Mae'r gwelliannau hyn wedi cynnwys cael gwared ar hen welyau plannu a bonion coed i gynnig golygfeydd gwell o'r castell i ymwelwyr. Mae meinciau picnic newydd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn hefyd wedi'u gosod, yn ogystal â mainc solar arloesol i ymwelwyr wefru eu ffonau symudol.

Bydd ymwelwyr â thref Caerffili hefyd nawr, wrth gyrraedd maes parcio Crescent Road, yn gweld gwelyau blodau sydd newydd eu plannu, yn sgil rhodd gan JS Lee (Services) Ltd a chymorth gan y grŵp cymunedol sy'n gyfrifol am Caerffili yn ei Blodau. Mae ffens newydd hefyd wedi'i gosod i wahanu rhannau arhosiad hir a byr o'r maes parcio yn glir.

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor sy'n gyfrifol am yr Economi a Menter, “Yn ogystal â bod yn ganolbwynt economaidd allweddol yn y Fwrdeistref Sirol, mae tref Caerffili yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae Parc Dafydd Williams yn gweithredu fel porth i ganol y dref a chastell mawreddog Caerffili; bydd y gwelliannau hyn yn gwella'r profiad i drigolion lleol ac ymwelwyr â'r ardal.  

“Dim ond dechrau'r cynlluniau cyffrous ar gyfer tref Caerffili a gweddill y Fwrdeistref Sirol yw'r gwelliannau hyn, sy'n cael eu cyflawni fel rhan o Gynllun Llunio Lleoedd uchelgeisiol y Cyngor.”


Ymholiadau'r Cyfryngau