News Centre

Mae'r digwyddiad poblogaidd ‘Un Curiad’ yn dychwelyd i Goed Duon

Postiwyd ar : 28 Tach 2022

Mae'r digwyddiad poblogaidd ‘Un Curiad’ yn dychwelyd i Goed Duon
Mae Mudiadau Gwirfoddol y Trydydd Sector yn cyfrannu tua £3.8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili dros 400 o fudiadau gwirfoddol gweithredol sy'n darparu ystod amrywiol o brosiectau, gwasanaethau, digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer ein cymunedau, ledled y Fwrdeistref Sirol.

Eleni, bydd Eglwys y Methodistiaid, Coed Duon, yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ac arddangos mawreddog y sector gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ‘Un Curiad’, ddydd Gwener 2 Rhagfyr.

Wedi'i drefnu gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3pm ac yn arddangos y gwaith anhygoel mae sefydliadau gwirfoddol y trydydd sector yn ei wneud, a thynnu sylw at sut maen nhw'n gwneud gwahaniaeth arwyddocaol yn ein cymunedau.

Mae hwn yn gyfle unigryw i drigolion ddarganfod sut maen nhw'n gallu cymryd rhan a chefnogi gwaith sefydliadau gwirfoddol lleol neu ddarganfod pa gyfleoedd a chymorth sydd ar gael iddyn nhw yn yr ardal leol.

Os ydych chi'n rhan o sefydliad gwirfoddol a hoffech chi gynnal stondin, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gina Jones ar 07483 128085 neu gina.jones@gavo.org.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau