News Centre

Siôn Corn wedi ei weld yn danfon siec gwerth £500 i ailgylchwr gwastraff bwyd yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 23 Tach 2022

Siôn Corn wedi ei weld yn danfon siec gwerth £500 i ailgylchwr gwastraff bwyd yng Nghaerffili
Mae Siôn Corn wedi cael ei weld yn danfon siec gwerth £500 i ailgylchwr gwastraff bwyd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Clare Burton o Aberbargod wedi'i henwi fel wythfed enillydd ymgyrch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gweddillion am Arian, lle mae un ailgylchwr gwastraff bwyd lwcus yn cael ei ddewis ar hap bob mis i ennill £500, a chafodd siec ei chyflwyno iddi gan dîm Gwastraff ac Ailgylchu'r Cyngor, gydag un ohonyn nhw wedi gwisgo’n arbennig ar gyfer yr achlysur.

Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022 gyda’r nod o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd, a gallai’r wobr ariannol helpu trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. 

Dywedodd Ms Burton: “Rwyf wedi ailgylchu fy ngwastraff bwyd cyhyd ag y gallaf gofio. Mae'n gwneud synnwyr i mi – mae gen i gadi bach yn y gegin, ac rwy'n gallu rhoi bwyd ynddo'n uniongyrchol a’i wagio bob nos. Nid yw’r gwastraff bwyd yn cronni fel y byddai yn y bin mawr felly mae’n llawer mwy glân. 

“Roedd yn anhygoel clywed fy mod wedi ennill, ni allai’r arian fod wedi dod ar amser gwell.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Hoffwn i longyfarch Ms Burton ar ennill a dweud diolch yn fawr i dîm Gwastraff ac Ailgylchu'r Cyngor am eu hymrwymiad i'r fenter hon ac i gadw ein Bwrdeistref Sirol yn lân trwy eu gwaith bob dydd.

“Gyda thymor y Nadolig yn agosáu, rydyn ni’n gwybod y bydd arian ar feddwl pawb, felly rydw i wrth fy modd yn gweld enillydd hapus arall yn ein hymgyrch Gweddillion am Arian ni, a gweld arian cyhoeddus yn cael ei ailddosbarthu yn ôl i’r gymuned fel hyn.”

Bydd enillwyr yr ymgyrch, Gweddillion am Arian, yn parhau i gael eu cyhoeddi bob mis tan fis Mawrth 2023.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau