News Centre

Digwyddiad poblogaidd ‘Rheoli Arian’ yn dychwelyd i lyfrgell Caerffili

Postiwyd ar : 04 Tach 2022

Digwyddiad poblogaidd ‘Rheoli Arian’ yn dychwelyd i lyfrgell Caerffili
Yn dilyn llwyddiant y ‘Diwrnod MOT Rheoli Arian’ cyntaf, bydd llyfrgell Caerffili yn cynnal ail ddigwyddiad ddydd Mercher 30 Tachwedd 2022, 9.30–12.30.
 
Gyda'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb, mae llyfrgelloedd Caerffili yn chwarae rhan sylweddol wrth helpu'r gymuned i baratoi a chynllunio at y dyfodol. Gan gynnig mannau cynnes, diogel, rhad ac am ddim a chroesawgar, rydyn ni'n cynnig rhywbeth i bawb. 

Dywed Mary Jenkins, Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell yng Nghaerffili, “Rydyn ni bob amser yn ceisio darparu’r cymorth gorau i’n trigolion ni, felly, pan awgrymodd un o’n Cynorthwywyr Llyfrgell ni ein bod ni'n cynnal digwyddiad i helpu gyda’r argyfwng costau byw, roedd yn teimlo fel taw dyna oedd y peth iawn i'w wneud."

Roedd y digwyddiad blaenorol, a gafodd ei gynnal yn ystod mis Medi, yn cysylltu trigolion â grwpiau a oedd yn cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth ymarferol - o goginio ar gyllideb fach i ddarparu larymau mwg am ddim i'r cartref. Fe wnaeth un sefydliad arbed bron i £1,000 i un trigolyn.

Roedd staff y llyfrgell yn gallu rhoi gwybod i drigolion sut mae modd i'r llyfrgell ei hun helpu: WiFi am ddim, cynhyrchion misglwyf am ddim trwy garedigrwydd y cynllun Urddas Misglwyf, defnydd am ddim o gyfrifiaduron, argraffu gwaith cartref am ddim i ddisgyblion a chylchgronau, e-lyfrau ac e-lyfrau llafar ar-lein am ddim.   Mae ein llyfrgell ni'n cynnig mannau i grwpiau o oedolion a phlant - rydyn ni'n ganolfan bwysig i'n cymuned ni ac yn gymaint mwy na dim ond lle i fenthyg llyfrau.

Bydd yr ail Ddiwrnod Rheoli Arian MOT, sy'n cael ei gynnal ar 30 Tachwedd, yn cynnwys detholiad eang o sefydliadau, gan gynnwys Cyfnewidfa Wisg Ysgol Caerffili, Cyngor ar Bopeth, Furniture Revival a Dŵr Cymru, ac mae'n gobeithio ailgreu ei lwyddiant ym mis Medi.  Bydd hefyd arddangosiad gwych ar gyfer coginio ar gyllideb fach gyda Mrs Shopland, a fydd - ynghyd â’i myfyrwyr Lletygarwch Safon Uwch dawnus o Ysgol Gyfun Martin Sant - yn dangos beth mae’n bosibl ei wneud gyda bwyd Nadolig dros ben.

Ynghyd â'r awgrymiadau, cyngor a chymorth gorau gan yr holl sefydliadau hyn, bydd y Diwrnod Rheoli Arian MOT hefyd yn gyfle gwych i drigolion siarad wyneb yn wyneb â staff y Cyngor, sy'n gallu helpu gyda phroblemau gan gynnwys budd-daliadau, tai, dyled, a chymorth bwyd. Bydd Canolfan Cyngor ar Bopeth hefyd yn bresennol a bydd ganddyn nhw fynediad i ystafell breifat pe bai angen i unrhyw un drafod unrhyw beth cyfrinachol.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Gymunedau, “Byddwn i'n annog unrhyw un sy’n ceisio cyngor a/neu gymorth ynghylch yr argyfwng costau byw i fynychu’r sesiwn hon yn Llyfrgell Caerffili. Roedd y sesiwn gyntaf, a gafodd ei chynnal ym mis Medi, yn hynod fuddiol i nifer o drigolion a gall rhyngweithio wyneb yn wyneb ag amrywiaeth o sefydliadau roi cyfle i’r rhai sy’n cael trafferthion ariannol wneud arbedion sylweddol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau