News Centre

Lansio trenau newydd yng Ngorsaf Drenau Caerffili

Postiwyd ar : 21 Tach 2022

Lansio trenau newydd yng Ngorsaf Drenau Caerffili
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio trenau Metro De Cymru newydd sbon yng Ngorsaf Drenau Caerffili ddydd Gwener 18 Tachwedd.

Roedd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Julian Simmons, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth, a Christina Harrhy, Prif Weithredwr y Cyngor, yn bresennol.

Mae'r trenau Dosbarth 231 yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn trafnidiaeth leol. Byddan nhw'n galluogi'r trenau i weithredu'n gyflymach, gan ganiatáu gwasanaethau amlach ar lwybrau allweddol a byddan nhw'n darparu mwy o le, sydd ei angen yn fawr.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, “Mae’r ffaith bod y trenau newydd sbon hyn wedi cyrraedd yn garreg filltir bwysig arall i Trafnidiaeth Cymru ac mae’n gam arall tuag at ein rhaglen trawsnewid i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru fod yn falch ohono. 

“Rydyn ni’n buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd a fydd yn darparu mwy o le ar ein rhwydwaith, bydd ganddyn nhw fwy o seddi a seddi gwell, bydd ganddyn nhw system awyru, socedi pŵer a sgriniau gwybodaeth a fydd yn dangos yr wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr. Mae’r cwsmer wrth galon ein gwaith cynllunio yn Trafnidiaeth Cymru a bydd gan y trenau hyn fwy o le i feiciau, pobl â symudedd cyfyngedig a phramiau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr unedau newydd cyntaf yn ymuno â’r gwasanaeth i gwsmeriaid y flwyddyn nesaf.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “O’r diwedd, mae’n wych gweld lansiad trenau Metro De Cymru newydd sbon, y trenau newydd sbon cyntaf i gael eu hychwanegu at y gwasanaeth yn Ne Cymru ers degawdau lawer. Bydd y prosiect pwysig hwn o fudd i deithwyr ledled y Fwrdeistref Sirol a'r tu hwnt iddi ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Hoffwn i ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am eu dull trawsnewidiol o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Hoffwn i hefyd ddiolch iddyn nhw am gynnal yr ymweliad yma yng Ngorsaf Drenau Caerffili.”


Ymholiadau'r Cyfryngau