News Centre

Ymdrechion y Cyngor i wella bioamrywiaeth yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 23 Tach 2022

Ymdrechion y Cyngor i wella bioamrywiaeth yng Nghaerffili
Mae adroddiad diweddar yn tynnu sylw at yr ymdrechion mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'u gwneud i wella bioamrywiaeth.

Cafodd yr adroddiad diweddaru ei gymeradwyo gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cyngor mewn cyfarfod ar 16 Tachwedd.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddyletswydd gyfreithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth er mwyn hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Yn yr adroddiad, mae nifer o fentrau sydd wedi cael eu cyflawni'n llwyddiannus gan y Cyngor, sy'n cynorthwyo i ddiogelu bioamrywiaeth yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys mabwysiadu Strategaeth Seilwaith Gwyrdd ym mis Tachwedd 2020 sydd â’r nod o adeiladu ar y gwaith sylweddol wedi'i wneud yn barod gan y Cyngor i ddatblygu Caerffili yn lle gwyrdd ac iach i fyw gyda seilwaith gwyrdd, aml-swyddogaeth, sefydledig o fannau ansawdd uchel; wedi'u cysylltu gan rwydwaith o goridorau sydd o fudd i bobl a natur.

Mae mentrau plannu coed hefyd wedi’u cynnal, lle cafodd 4,500 o goed eu plannu gan wirfoddolwyr ymroddedig ar Fferm Ynys Hywel sy’n cysylltu â Pharc Gwledig Cwm Sirhywi gan gyflwyno coridor bywyd gwyllt sylweddol rhwng Gwarchodfa Natur Leol Graig Goch, coetir Cyfoeth Naturiol Cymru ac Afon Sirhywi. Mae 27,600 o goed ychwanegol hefyd wedi'u plannu dan gontract ar safle cyfagos.

Cafodd dull torri gwair ‘Natur Wyllt’ ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2021, sy'n golygu gwneud cyn lleied â phosibl o waith torri gwair ar ymylon priffyrdd a ffyrdd osgoi. Cafodd rhestr o ardaloedd eu henwebu gan aelodau lleol o fewn eu wardiau priodol i beidio â thorri'r gwair i sicrhau eu bod nhw'n ffynnu yn ystod yr haf, gan wella'r amgylchedd lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Yn 2019, fe ddaeth y Cyngor yr ail un yng Ngwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel sydd wedi'i wneud gan Dîm Caerffili, er mwyn helpu cyrraedd y nod hwn.

“Mae gofalu am yr amgylchedd, diogelu bioamrywiaeth a lleihau ein hôl troed carbon yn gyfrifoldeb i bawb ac mae’n wych gweld yr amrywiaeth o brosiectau sy’n cael eu cynnal gennym ni fel Cyngor, ond hefyd y rhai sy’n ymgysylltu â thrigolion a chymunedau lleol.

“Roeddwn i'n falch o gadeirio seminar diweddar ar fioamrywiaeth i holl aelodau’r Cyngor gyda chymorth ein swyddogion, ac roedd yn wych gweld cefnogaeth gan bob aelod am waith bioamrywiaeth ein Cyngor.”


Ymholiadau'r Cyfryngau