News Centre

Un o drigolion Caerffili yn troi gwastraff bwyd yn £500 o arian parod!

Postiwyd ar : 03 Tach 2022

 Un o drigolion Caerffili yn troi gwastraff bwyd yn £500 o arian parod!
Mae trigolyn Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill £500 am ailgylchu gwastraff bwyd fel rhan o ymgyrch y Fwrdeistref Sirol, Gweddillion am Arian.

Mae Ms Howells, Ystrad Mynach, wedi cael ei chyhoeddi'n seithfed enillydd ymgyrch Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022 yn unol ag Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd.

Mae'r ymgyrch yn gweld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, gyda phob enillydd yn derbyn £500.

Mae’r Awdurdod Lleol yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn cynyddu ailgylchu gwastraff bwyd, tra gallai’r wobr ariannol helpu trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. 

Dywedodd Ms Howells, “Rydw i’n dod o’r genhedlaeth ‘gwneud y tro a thrwsio’, felly, rydw i'n ceisio gwastraffu cyn lleied â phosibl. Rydw i wedi ailgylchu fy ngwastraff bwyd ers derbyn cadi gwastraff bwyd gan y Cyngor, a chyn hynny, roeddwn i'n ei gompostio fy hun, felly, mae’n syndod mawr i mi gael fy nghydnabod am fy nghyfraniad fel hyn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Diolch yn fawr i Ms Howells am ei chyfraniad at ein hagenda ailgylchu gwastraff bwyd a llongyfarchiadau ar ei henillion.

“Gyda’r argyfwng costau byw ar feddwl pawb, rydyn ni mor hapus i weld enillydd hapus arall yr ymgyrch Gweddillion am Arian, ac i ailddosbarthu arian cyhoeddus yn ôl i’r gymuned yn y modd hwn.”

Bydd enillwyr yr ymgyrch, Gweddillion am Arian, yn parhau i gael eu cyhoeddi bob mis drwy gydol 2022.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/services/household-waste-and-recycling/food-waste?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau