News Centre

Cyngor Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru

Postiwyd ar : 24 Tach 2022

Cyngor Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru
Enillodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r categori ‘Cyfathrebu mewn Argyfwng’ yng Ngwobrau Tai Cymru eleni.

Mae’r gwobrau blynyddol, sy’n cael eu cynnal gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn dathlu cyflawniadau ac arloesedd ar draws y sector tai yng Nghymru a’r effaith maen nhw'n eu cael ar fywydau cymaint o bobl.

Enillodd y Cyngor y wobr am ei ddull o gyfathrebu â thenantiaid yn ystod anterth y pandemig Covid-19; pan oedd y staff yn gweithio'n hyblyg ac yn arloesol i gyrraedd eu tenantiaid i gyd. Roedd hyn yn hanfodol er mwyn cyfleu negeseuon allweddol i denantiaid a’u gwneud nhw'n ymwybodol o newidiadau i wasanaethau, gan hefyd sicrhau nad oedd unrhyw berson agored i niwed yn cael ei adael heb gymorth yn ystod cyfnod hynod heriol i lawer o bobl.

Roedd Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth y Cyngor hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ‘Tîm Tai y Flwyddyn’ i gydnabod eu hymroddiad i gynorthwyo rhai o drigolion mwyaf agored i niwed y Fwrdeistref Sirol yn ystod cyfnod o anhawster ariannol.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Dydy cynorthwyo ein tenantiaid yn ystod cyfnod o argyfwng erioed wedi bod mor bwysig, ac mae'n gyflawniad gwych i gael ein cydnabod am ein hymdrechion. Llongyfarchiadau a diolch i bawb dan sylw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau