News Centre

Aelod Cabinet Caerffili yn galw am adolygiad ar rasio cŵn yng Nghymru

Postiwyd ar : 04 Tach 2022

Aelod Cabinet Caerffili yn galw am adolygiad ar rasio cŵn yng Nghymru
Mae’r Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu rasio milgwn yng Nghymru.

Nid yw rasio milgwn yn cael ei reoleiddio yng Nghymru ar hyn o bryd, yn wahanol i Loegr lle mae traciau’n ddarostyngedig i Reoliadau Lles Milgwn Rasio 2010 ac mae traciau wedi’u cofrestru gyda Bwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB) ac yn destun hunanreoleiddiad achrededig UKAS.

Yn ei llythyr at Lywodraeth Cymru, dywedodd y Cynghorydd Leonard “Rydw i’n rhannu’r pryderon a gafodd eu lleisio gan elusennau lles anifeiliaid am filgwn yn rasio trwy gydol eu hoes, gan gynnwys diwedd eu gyrfa rasio.  Mae’r data sydd ar gael ar anafiadau a marwolaethau i filgwn yn warthus ac nid ydw i'n credu y dylai anifeiliaid gael eu camddefnyddio a’u niweidio yn y modd hwn ar gyfer adloniant.”

Parhaodd i ddweud, “Wrth alw am adolygiad gan Lywodraeth Cymru o’r sefyllfa ddeddfwriaethol yng Nghymru byddwn i'n gofyn i ystyriaeth gael ei rhoi i wahardd rasio milgwn yn gyfan gwbl, a fy marn bersonol i yw mai dyma yw'r unig ffordd i sicrhau lles anifeiliaid drwy gydol eu hoes, yn hytrach na chyflwyno fframwaith rheoleiddio,. Gyda dim ond un trac yng Nghymru, dylai fod yn bosibl dod â'r gweithgaredd hwn i ben dros gyfnod cymharol fyr.
 
Mae rasio milgwn yn gyfreithlon mewn dim ond 7 gwlad yn y byd ac rydw i wir yn credu ei bod hi’n gwbl anghyson â gwerthoedd pobl Cymru bod Cymru wedi’i chynnwys ar y rhestr honno.”
 
Mae'r unig drac rasio milgwn yng Nghymru ar hyn o bryd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

 


Ymholiadau'r Cyfryngau