News Centre

Clinig Cynorthwyo Busnes ac Ariannu

Postiwyd ar : 04 Tach 2022

Clinig Cynorthwyo Busnes ac Ariannu
Bydd Cyngor Caerffili yn cynnal Clinig Cynorthwyo Busnes ac Ariannu ddydd Mercher 16 Tachwedd.

Yn y sesiwn hon, gallwch chi ddarganfod rhagor am y cymorth lleol sydd ar gael i'ch busnes chi gan amrywiaeth o sefydliadau. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn ni ddarparu cyllid i gychwyn neu ehangu busnes, gan eich helpu chi gyda chyllid er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.
 
Byddwn ni'n cynnal y sesiynau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Adnoddau Gwybodaeth y Rhosyn Gwyn, Tref Eliot, Tredegar Newydd NP24 6EF.
 
P'un a ydych chi'n fusnes newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol.
 
 
I gadw slot 20 munud o hyd, anfonwch e-bost i busnes@caerffili.gov.uk. Cofiwch nodi a hoffech chi gyfarfod o bell ar-lein neu wyneb yn wyneb.


Ymholiadau'r Cyfryngau