News Centre

Estyn oriau trwyddedu ar gyfer y Jiwbilî

Postiwyd ar : 30 Mai 2022

Estyn oriau trwyddedu ar gyfer y Jiwbilî
peint o gwrw

Mae Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Oriau Trwyddedu'r Jiwbilî Platinwm) 2022 wedi estyn yr oriau trwyddedu ar gyfer mangreoedd perthnasol nos Iau 2 Mehefin, nos Wener 3 Mehefin a nos Sadwrn 4 Mehefin 2022.

Bydd yr estyniad yn berthnasol i fangreoedd sydd eisoes wedi'u trwyddedu gydag awr derfyn rhwng 11pm ac 1am, naill ai trwy drwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb, ar gyfer:

  • gwerthu alcohol yn y fangre
  • darparu lluniaeth gyda'r hwyr (dim ond pan fo hefyd ddarpariaeth ar gyfer gwerthu alcohol i'w yfed yn y fangre)
  • darparu adloniant wedi'i reoleiddio
  • Bydd pob mangre cymwys yn cael estyniad awtomatig tan 1am y bore canlynol ar gyfer gwerthu alcohol yn y fangre, lluniaeth gyda'r hwyr ac adloniant wedi'i reoleiddio.

Ni fydd y mangreoedd canlynol yn elwa ar hyn:

  • Y rhai sydd wedi'u trwyddedu y tu hwnt i 1am
  • Y rhai sydd wedi'u trwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle yn unig
  • Os yw mangre wedi'i thrwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol i'w yfed ar y safle ac oddi ar y safle, dim ond ar gyfer caniatâd i werthu alcohol i'w yfed ar y safle mae'r estyniad yn berthnasol; rhaid i werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle, gan gynnwys gwasanaethau tecawê a dosbarthu alcohol, ddod i ben ar yr amser arferol.

Bydd unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded mangre ar hyn o bryd yn parhau mewn grym, a dylid glynu wrthyn nhw bob amser yn ystod y cyfnod estynedig.

Mae'r Gorchymyn llawn, sef Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Oriau Trwyddedu'r Jiwbilî Platinwm) 2022, ar gael yn www.legislation.gov.uk/cy

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch chi, cysylltwch â'r Adran Trwyddedu – trwyddedu@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau