News Centre

Willmott Dixon yn helpu dosbarthu prydau ysgol am ddim yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 26 Mai 2022

Willmott Dixon yn helpu dosbarthu prydau ysgol am ddim yng Nghaerffili
Mae teuluoedd cymwys ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael pecynnau prydau ysgol am ddim yr wythnos hon, yn barod ar gyfer hanner tymor, yn sgil cymorth gan yr arbenigwyr adeiladu, Willmott Dixon.
 
Mae Willmott Dixon yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gyflawni ei raglen uchelgeisiol i adeiladu tai newydd. Bydd y rhaglen hon yn golygu adeiladu'r tai cyngor newydd cyntaf yn y Fwrdeistref Sirol ers bron i 20 mlynedd.
 
Mae gwirfoddolwyr o Willmott Dixon yn gweithio ochr yn ochr â staff Cyngor Caerffili i helpu dosbarthu pecynnau prydau bwyd i ddisgyblion cymwys ledled y Fwrdeistref Sirol yn barod ar gyfer hanner tymor. Mae'r pecynnau bwyd yn cynnwys amrywiaeth eang o gyflenwadau, gan gynnwys prydau parod, bara, llaeth, ffrwythau ffres a llysiau.
 
Mae gwasanaeth y Cyngor, a ddechreuodd ar ddechrau'r pandemig COVID-19, wedi cael ei ganmol yn genedlaethol am ei ffordd o fynd ati ac mae dros 1.9 miliwn o brydau wedi cael eu dosbarthu i deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Hoffwn i ddiolch i bawb dan sylw am ddarparu'r gwasanaeth allweddol hwn ac i Willmott Dixon am eu cymorth.
 
“Mae llawer o deuluoedd yn wynebu effeithiau'r argyfwng costau byw ar hyn o bryd, felly, ni fu ein rhaglen prydau ysgol am ddim erioed mor bwysig. Mae gweld gwirfoddolwyr o bob rhan o'r Cyngor ac asiantaethau partner yn gweithio gyda'i gilydd i helpu ein trigolion, gan gyflawni tasg logistaidd enfawr, yn ymgorffori'r ethos ‘Tîm Caerffili’ i'r dim.”
 
Meddai Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Willmott Dixon, “Mae'r fenter hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gynifer o deuluoedd yn yr ardal, ac rydyn ni'n falch o fod yn rhan ohoni. Nid yn unig ydyn ni wedi ymrwymo i helpu'r cymunedau lle rydyn ni'n adeiladu, ond mae'r prosiectau rydyn ni'n eu hadeiladu ar hyn o bryd yng Nghaerffili yn golygu bod gennym ni weithwyr sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal, ac sy'n awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd maen nhw'n gallu.”


Ymholiadau'r Cyfryngau