News Centre

Trawsnewid eiddo gwag ar y stryd fawr gyda chymorth rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru

Postiwyd ar : 27 Mai 2022

Trawsnewid eiddo gwag ar y stryd fawr gyda chymorth rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru
Mae adeilad yr hen Store 21 yn y Stryd Fawr, Coed Duon, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, wedi'i ailddatblygu a'i drawsnewid yn fflatiau moethus a phum uned fanwerthu lai, gan gyfuno defnydd masnachol a phreswyl mewn prosiect uchelgeisiol.

Mae'r prosiect wedi golygu bod eiddo gwag yn y Stryd Fawr, Coed Duon, yn cael bywyd newydd a denu ymwelwyr unwaith eto.

Cafodd yr adeilad yn 87–89 Y Stryd Fawr, Coed Duon, hwb ariannol gan raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen ariannu yw cefnogi prosiectau adfywio sy'n hybu adfywio economaidd – creu swyddi, gwella sgiliau a chyflogadwyedd, a chreu'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu.

Mae'r cyllid wedi'i anelu at sicrhau bod eiddo masnachol gwag yn cael ei ddefnyddio eto a bydd yn mynd i'r afael â'r gofyniad am arwynebedd llawr manwerthu a masnachol sy'n diwallu anghenion busnesau, trwy ddarparu cyllid llenwi bwlch ar gyfer meddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol gwag, i wella blaen adeiladau a sicrhau bod mannau ag arwynebedd llawr masnachol gwag yn cael ei ddefnyddio eto at ddefnydd busnes buddiol.

Mae'r prosiect, sydd bellach wedi'i gwblhau, yn cynnwys wyth fflat ag un ystafell wely ac un fflat â dwy ystafell wely ar y llawr cyntaf, a phum uned fanwerthu ar y llawr gwaelod. Mae'r islawr yn cynnwys ardal barcio breifat.

Mae'r holl unedau manwerthu bellach wedi'u gosod i fusnesau lleol – Tamp and Grind (Deli Company), JDs Barbershop, Cheesesteak Company, a Summer Nails.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd a Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Mae'n drueni gweld adeilad gwag mewn safle gwych ar y stryd fawr. Mae'n wych gweld busnesau ac entrepreneuriaid yn manteisio ar raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi'n sylweddol mewn seilwaith i sicrhau bod Caerffili yn lle gwych i wneud busnes. Rydyn ni'n parhau i gryfhau ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac, fel rhan o'r Cronfeydd Canolfannau Trefol, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod nifer o adeiladau gwag ac wedi'u tanddefnyddio mewn canol trefi ledled y Fwrdeistref Sirol yn cael eu defnyddio eto.”

Am ragor o wybodaeth am fuddsoddiadau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ewch i: www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy
 


Ymholiadau'r Cyfryngau