News Centre

Mae The Gods Are All Here yn dod i Sefydliad y Glowyr Coed Duon am un noson yn unig

Postiwyd ar : 24 Mai 2022

Mae The Gods Are All Here yn dod i Sefydliad y Glowyr Coed Duon am un noson yn unig
Mae darganfyddiad annisgwyl mewn atig yn sbarduno stori teulu gyfareddol gyda straeon gwerin a chwedlau.
 
Mae Phil Okwedy, storïwr o Gymru, a chynhyrchwyr, Adverse Camber mewn cysylltiad â Theatrau Sir Gâr wedi uno i rannu stori anhygoel am ddarganfyddiad annisgwyl, yn datgelu ei orffennol a hanes ei deulu ei hun. Bydd The Gods Are All Here yn teithio ar draws Cymru ym mis Mai a mis Mehefin.
 
Mae The Gods Are Here yn ymchwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a phlentyn yn cael ei fagu heb ei rieni geni mewn perfformiad teimladwy a doniol. Mae The Gods Are All Here yn stori dragwyddol ac yn bendant iawn yn stori gyfoes.
 
Wedi’i sbarduno gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau gan ei dad yn Nigeria at ei fam yng Nghymru, mae The Gods Are All Here yn berfformiad un-dyn grymus, telynegol a chynnes gan storïwr rhagorol, Phil Okwedy.
 
Mae perfformiad cyfareddol Phil yn fedrus yn plethu myth, cân, straeon gwerin a chwedlau’r diaspora Affricanaidd gyda stori bersonol ryfeddol sy’n dadlennu profiadau Phil o gael ei fagu fel plentyn o dreftadaeth ddeuol yng Nghymru yn y 1960au a’r 70au.
 
Wedi’i eni yng Nghaerdydd, ni wnaeth Phil erioed fyw gyda’r naill na’r llall o’i rieni ond cafodd ei fagu yn Sir Benfro gan ei fam faeth hirdymor. Gan olrhain y cyfnod mewn bywyd pan ddywedir fod plant yn ystyried eu rhieni fel duwiau, ond heb fod erioed wedi byw gyda nhw, yn y sioe hon mae Phil yn ystyried os oedd ei rieni, mewn gwirionedd, y duwiau y dychmygodd iddynt fod.
 
Dywedodd Phil: “Wrth i mi ddatblygu fel storïwr daeth amser pan deimlwn yn barod i ddweud myth ond ni fedrwn ganfod dim oedd yn taro tant gyda fi. Felly dechreuais blethu straeon personol a theulu gyda straeon gwerin fel rhan o waith creu mythau. Pan ganfyddais y llythyrau yn fflat fy mam ar ôl iddi farw, teimlais fod angen gwneud mwy gyda nhw na dim ond ei darllen ond nid oeddwn eto yn storïwr felly doedd gen i ddim syniadau beth y gallai hynny fod.
 
Nawr, wrth rannu’r sioe hon, fy mwriad yw iddi daro tant gyda phobl eraill, gyda’u straeon teulu unigol eu hunain ond hefyd gyda’r gynulleidfa gyfan, oherwydd mai drwy gydweithiwn y byddwn yn sicrhau fod pawb yn profi cydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid.”
 
Mae Phil Okwedy yn storïwr ac awdur sydd wedi perfformio mewn llawer o ddigwyddiadau a gwyliau dweud straeon ledled Prydain. Cafodd ei gomisiynu’n ddiweddar fel rhan o raglen Cynrychioli Cymru, Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru ac mae’n gyfrannwr sylweddol i brosiect Go Tell the Bees National Theatre Wales.
 
Mae Adverse Camber, cwmni blaenllaw mewn cynhyrchu dweud straeon (Dreaming the Night Field/Hunting for Giant’s Daughter) yn hynod falch i fynd â’r cynhyrchiad hwn ar daith, mewn partneriaeth gyda Theatrau Sir Gâr.
 
Dywedodd Naomi Wilds, Cyfarwyddwr Gweithredol Adverse Camber ”Roeddem wrth ein bodd i gael cyfle i ddod â The Gods Are All Here gan Phil Okwedy i gynulleidfaoedd Cymru yn 2022. Mae Phil yn storïwr mor ddiddorol ac mae ei stori yn mynd â chynulleidfaoedd o ble bynnag y maent i Gymru y 1960au, ac ymlaen ar daith ryfeddol o ddarganfyddiad, gyda straeon godidog o gyfandir Affrica, i gyd mewn un noswaith hudolus. Dyma’r amser iawn i glywed y straeon hyn a rhoi ei lwyfan haeddiannol i’r storïwr talentog hwn!”
 
Mae’r stori yn addas ar gyfer rhai 12+ oed. Mae Phil, sydd hefyd yn arweinydd gweithdy medrus, yn cynnal gweithdai a sgyrsiau ynghyd â’r sioe, ynghyd â chyfle i grwpiau ac ysgolion i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol hyn a datgelu mwy am y sioe.
 
Bydd The Gods Are a All Here yn agor yn Theatr y Ffwrnes (26 Mai), ac wedyn yn Sefydliad Glowyr Coed Duon Mehefin) a Chanolfan Glanyrafon, Casnewydd (11 Mehefin).
 
Ariannwyd The Gods Are All Here gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chafodd ei wneud yn bosibl gan arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae Theatrau Sir Gâr yn cefnogi datblygu’r cynhyrchiad, gyda’r cyfarwyddwr Michael Harvey a thîm o weithwyr cynhyrchu proffesiynol, yn cynnwys dylunydd, cynhyrchydd cysgodol a thîm technegol.
 
Am ragor o wybodaeth a thocynnau ewch i: https://blackwoodminersinstitute.com/cy/gods-are-all-here
 


Ymholiadau'r Cyfryngau