News Centre

Tîm Allweddi Caerffili yn codi £1,450 er budd elusen clefyd niwronau motor

Postiwyd ar : 20 Mai 2022

Tîm Allweddi Caerffili yn codi £1,450 er budd elusen clefyd niwronau motor
Fe wnaeth aelodau o'r tîm y tu ôl i Allweddi Caerffili, sef cynllun prydlesu sector preifat arloesol, ddod at ei gilydd yn ddiweddar i godi £1,450 er budd Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Fe wnaeth wyth aelod o dîm Allweddi Caerffili, gan gynnwys swyddogion a landlordiaid, gymryd rhan yn ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows eleni, ddydd Sul 15 Mai. Fe wnaeth y tîm ddewis Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor fel ei elusen ddewisol ar ôl i un o landlordiaid cyntaf y cynllun gael diagnosis o'r cyflwr yn ddiweddar.

Mae'r fenter yn cael ei harwain gan dîm Atebion Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae Allweddi Caerffili yn atal digartrefedd drwy baru tenantiaid ag eiddo rhent preifat addas ac yn gweithio i helpu'r tenant a'r landlord i sicrhau bod y denantiaeth yn cael ei chynnal.

Ymhlith staff Cyngor Caerffili a gymerodd ran roedd Byron Jones, Liam Roberts, David Francis a Hannah Williams a wnaeth gwblhau'r ras mewn 40 munud! Landlordiaid Allweddi Caerffili a gymerodd ran oedd Craig Coombes a Tom Collins, ynghyd â Charlotte Burles Corbett a Ruth Powell a oedd yn cynrychioli Fforwm Landlordiaid Preifat Caerffili.

Meddai Dave Street, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai y Cyngor, “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a diolch i bawb a oedd mor hael â rhoi arian. Mae hwn yn gyflawniad anhygoel ac rwy'n siŵr y bydd Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor mor ddiolchgar.

"Mae Allweddi Caerffili wedi mynd o nerth i nerth ac wedi helpu sicrhau cartref i lawer o bobl a fyddai, fel arall, wedi eu cael eu hunain yn ddigartref. Mae gweithio mewn partneriaeth yn wirioneddol hanfodol i lwyddiant y prosiect, ac mae'r tîm wedi dangos drwy'r her hon fod y perthnasoedd hyn yn ymestyn yn llawer ehangach na dim ond y gwaith pob dydd.”

Mae'r tîm yn dal i dderbyn rhoddion tan ddydd Llun 30 Mai, a gallwch chi roi arian drwy fynd i: www.justgiving.com/team/CaerphillyKeys10k

Am ragor o wybodaeth am Allweddi Caerffili, ewch i: www.caerphillykeys.co.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau