News Centre

Her colli pwysau lwyddiannus arall – 'Pwys o Bwys' – yn dod i ben

Postiwyd ar : 30 Mai 2022

Her colli pwysau lwyddiannus arall – 'Pwys o Bwys' – yn dod i ben
Daeth her colli pwysau Dull Byw Hamdden yr hydref, Pwys o Bwys, i ben yr wythnos diwethaf gyda chanlyniadau anhygoel yn cael eu cofnodi ledled y Fwrdeistref Sirol. 
 
Roedd yr her colli pwysau yn rhedeg am wyth wythnos mewn pedwar lleoliad ledled y Fwrdeistref Sirol gydag unigolion yn cael rhaglenni hyfforddi personol a chymorth un-i-un gan staff. 
 
Enillydd y wobr gyffredinol oedd Sarah Richards, a gollodd 25.5 pwys. Ar ôl gorffen y rhaglen, dywedodd Sarah, “Roedd fy mhwysau yn gwneud i fi deimlo'n drist gan fy mod i'n pwyso bron yr un peth ag ychydig cyn i mi gael fy merch 28 mlynedd yn ôl. Roeddwn i mewn dosbarth beicio mewn grŵp pan soniodd rhywun fod 'Pwys o Bwys' yn dechrau ymhen wythnos a sut yr oedd wedi ei helpu i golli pwysau, felly, cofrestrais i.
 
Cysylltodd Chris â mi a dywedodd y byddwn i'n aelod o'i dîm; esboniodd sut roedd y rhaglen yn gweithio a gofynnodd i mi nodi faint o bwysau yr hoffwn i ei golli. Dechreuais gyfrif fy nghalorïau, mynychu mwy o ddosbarthiadau a dechrau mynd i'r gampfa. Gyda chymorth Chris, dechreuodd y pwysau ddod i ffwrdd ac mae'n rhaid i mi ganmol ar ein tîm gwych ni sydd wedi bod mor gefnogol, ynghyd â'r rhai yn fy nosbarthiadau cadw'n heini.
 
Ar ôl y sesiwn pwyso a mesur olaf, roeddwn i wedi colli 25 a hanner o bwysau.  Roeddwn i wrth fy modd ac rwy'n anelu at barhau â'm taith colli pwysau yng Nghanolfan Hamdden Caerffili gyda'r staff gwych a'm ffrindiau cadw'n heini.” 
 
Collodd tîm Pwys o Bwys yng nghanolfan hamdden Caerffili gyfanswm o 135 o bwysau. Dywedodd Chris Eatwell, hyfforddwr ffitrwydd a arweiniodd y tîm buddugol, “Gydag anawsterau’r cyfyngiadau symud, roedd yr her hon yn ein hatgoffa ni bod yn rhaid i ni wneud ein lles, iechyd a ffitrwydd ni yn brif flaenoriaeth yn ein bywydau ni. Llongyfarchiadau enfawr i Sarah a gweddill ‘Tîm Chris’ gan eu bod wedi perfformio’n arbennig o dda, ac rwy’n falch iawn o’r holl ganlyniadau maen nhw wedi cyflawni.”
 
Chwiliwch am her colli pwysau nesaf, Pwys o Bwys, a fydd yn dechrau yn ddiweddarach eleni. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ofyn yn eich canolfan hamdden leol chi. 
 
Am ragor o wybodaeth am ba gyfleusterau chwaraeon a hamdden actif sydd ar gael yn eich ardal chi – ewch i: www.caerphilly.gov.uk/Things-To-Do/Sports-and-Leisure?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau