Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2024
Cyhoeddi masnachwyr marchnad newydd Ffos Caerffili
News Centre
Cyhoeddi masnachwyr marchnad newydd Ffos Caerffili
Postiwyd ar : 01 Maw 2024
Mae masnachwyr newydd wedi cael eu datgelu ar gyfer Ffos Caerffili, marchnad unigryw ar ffurf cynhwysyddion yng Nghaerffili, sy'n agor i'r cyhoedd ddydd Gwener, Mawrth 15.
Y cyntaf o’i fath yng Nghaerffili, mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi’i chyhoeddi ar draws dydd Gwener a dydd Sadwrn, Mawrth 15 a 16, i ddathlu lansiad Ffos Caerffili, yn cynnwys cerddoriaeth fyw, corau ysgolion lleol a gweithdai dan arweiniad masnachwyr Ffos.
Mae agoriad y farchnad yn nodi cam cyntaf Cynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035, gyda chymorth ariannol gan Fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Ochr yn ochr â sefydliadau adnabyddus Caerffili a gyhoeddwyd eisoes, gan gynnwys Bab Haus, Upmarket Family Butchers, a menter newydd Two Shot Social, mae Ffos Caerffili yn falch iawn o gyhoeddi bod tri masnachwr annibynnol newydd ar fin ymuno â’r farchnad.
Bydd mwy o fasnachwyr yn cael eu cyhoeddi wrth i’r penwythnos lansio agosáu.
Ymhlith y newydd-ddyfodiaid mae’r ffefryn o Gaerdydd, Bao Selecta, sy’n enwog am ei fwyd stryd eithriadol wedi’i ysbrydoli gan fwyd Taiwan, a fydd yn dechrau gweini yn y farchnad o 15 Mawrth.
Dywedodd Nick, perchennog a gweithredwr Bao Selecta:
“Rydym wedi bod yn dod i Gaerffili ers blynyddoedd ac yn gwybod bod pobl leol yn gweiddi am ychydig o flasusrwydd Bao Selecta.
“Rydym yn edrych ymlaen at arddangos y prydau newydd ry’n ni wedi bod yn eu perffeithio ers cryn amser.”
Mae'r Circular Studio, siop ddillad vintage ac ail-law yng Nghaerffili sydd hefyd yn cynnig gweithdai sy'n ail-bwrpasu eitemau sydd ‘wedi eu caru eisoes’, yn un o'r mentrau newydd sy'n ymuno â'r farchnad.
Mae’r perchennog Sam Eastcott yn gyffrous i agor ei hail safle yng Nghaerffili, gan ddweud: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod yn rhan o deulu Ffos Caerffili ac adeiladu cymuned o fasnachwyr.
“Alla i ddim aros i gwrdd â mwy o’r gymuned a lledaenu’r cariad at ddillad ail-law ar draws Caerffili.”
Yn ogystal, bydd Joe’s Plant Place yn symud i’r safle newydd, gan gynnig arbenigedd planhigion a gweithdai gwyrdd atyniadol i bob oed.
Gydag wyth mlynedd o brofiad garddwriaethol, mae’r gŵr lleol Joe Carey yn awyddus i rannu ei wybodaeth am blanhigion tŷ a’r buddion iechyd meddwl y maent yn eu darparu.
Dywedodd Joe: “Yn y cyfnod hectig hwn, mae planhigion tŷ yn berffaith i gadw’ch meddwl yn brysur.
“Rydw i eisiau rhannu’r mwynhad dwi’n ei gael ganddyn nhw gyda’r cyhoedd yng Nghaerffili, a gobeithio eu bod nhw’n sylweddoli’r lles meddwl y gallwch chi ei gael o ofalu am eich ffrindiau deiliog.
“Ar wahân i fod yn ganolbwynt planhigion tŷ parhaol, byddwn ni’n cynnig gweithdai planhigion ymarferol, felly rwy’n frwdfrydig iawn i weithio gyda phobl o bob cenhedlaeth i ddangos y cariad y mae garddio yn ei roi.”
Bydd Ffos Caerffili yn gartref i 28 o fasnachwyr i gyd, yn amrywio o siopau bwyd a diod i siopau unigol fel The Circular Studio a Joe’s Plant Place, gan sicrhau bod rhywbeth i bawb.
Bydd penwythnos lansio Ffos Caerffili yn llawn dathliadau i’r gymuned gyfan eu cefnogi – gan lansio gyda diwrnod o gerddoriaeth fyw ddydd Gwener, Mawrth 15 a diwrnod o hwyl i’r teulu a arweinir gan y gymuned ddydd Sadwrn, Mawrth 16, a fydd yn ddigwyddiad trwy’r dydd, yn cynnwys gweithdai dan arweiniad masnachwyr y farchnad, cerddoriaeth fyw, a noson o berfformiadau drag i gloi’r noson.
Dywedodd gweithredwyr y farchnad Steve Bines a Grant Jones: “Gydag agoriad Ffos Caerffili yn prysur agosáu, rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu rhyfeddodau’r safle gyda’r holl drigolion lleol yn fuan.”
“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda’r holl fusnesau a gymerodd ran i gyflwyno ystod wych o fasnachwyr lleol ac rydym wrth ein bodd y bydd y gofod yn dod yn ganolfan fywiog a chyffrous o nwyddau, cynnyrch a gwasanaethau o safon yng Nghaerffili cyn bo hir.”
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili: “Wrth i ni baratoi at yr agoriad, mae’n wych gweld ymateb cadarnhaol gan drigolion i’r newyddion bod mwy o weithredwyr yn cofrestru i fod yn rhan o brofiad cyffrous Ffos Caerffili.”
“Bydd y farchnad yn rhoi bywyd newydd i ganol y dref, trwy hwyluso cyfuniad deniadol o fasnachwyr annibynnol, gan gynnig ystod eang o ddewis i siopwyr ac ymwelwyr. Fel Cyngor, byddwn yn parhau i weithio’n galed i ddatblygu busnesau sector preifat yng nghanol ein trefi”.
Meddai’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae Ffos Caerffili yn enghraifft wych o sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio ein rhaglen Trawsnewid Trefi i adfywio canol trefi a dinasoedd i greu ymdeimlad o le i'w cymunedau.
"Mae mwy na £2.5m o gymorth ariannol wedi'i ddarparu drwy'r rhaglen a fydd yn sicrhau bod Caerffili yn cadw darpariaeth marchnad yng nghanol y dref. Yn ogystal, mae'r farchnad yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth yn ehangach ac mae'n hawdd ei chyrraedd i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, gan annog mwy o deithio egnïol yn yr ardal.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae ein partneriaid yng nghanol y dref yn parhau i ddefnyddio'r cyllid i ddatblygu ac adfywio eu cymunedau yn strategol i greu priffyrdd bywiog a thwf cynaliadwy hirdymor."
Bydd Ffos Caerffili yn agor ei drysau’n swyddogol i’r cyhoedd am 9am ddydd Gwener, Mawrth 15.
Dilynwch
@ffoscaerffili
ar Instagram i gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau agor Ffos Caerffili, ac am eich cyfle i ennill taleb gwerth £50 i'w wario gydag unrhyw un o fasnachwyr Ffos Caerffili dros y penwythnos agoriadol.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y