News Centre

Elusen ddewisedig y cyn-Faer, #TroiBIPABynBinc, yn cael rhodd hael

Postiwyd ar : 06 Maw 2024

Elusen ddewisedig y cyn-Faer, #TroiBIPABynBinc, yn cael rhodd hael
Bob blwyddyn, mae Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dewis elusen i’w chefnogi drwy gydol eu hamser yn y swydd.

Dewisodd y cyn-Faer, y Cynghorydd Elizabeth Aldworth, i godi arian tuag at #TroiBIPABynBinc yn ystod ei blwyddyn fel Maer yn 2022-23. Mae'r elusen ddewisol yn codi arian er budd gwasanaeth newydd Uned y Fron GIG Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Ysbyty Ystrad Fawr.

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi bod cyfanswm o £5,041.83 wedi’i godi i wella cyfleusterau’r Uned yn ystod blwyddyn y Maer yn ei swydd. 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aldworth y siec i Uned y Fron yn Ysbyty Ystrad Fawr ddydd Gwener 23 Chwefror, a hoffai ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n hael tuag at yr elusen bwysig hon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.turnabuhbpink.org/


Ymholiadau'r Cyfryngau