News Centre

Gweithgareddau Gwyliau'r Pasg

Postiwyd ar : 27 Maw 2024

Gweithgareddau Gwyliau'r Pasg
Mae'n bleser gennym ni gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau difyr i ddiddanu'r plant a’u cadw’n egnïol yn ystod gwyliau'r Pasg. Anturiaethau yn y pwll nofio, Cynlluniau Chwaraeon, a mwy – mae'r arlwy'n addo wythnos sy'n llawn chwerthin, dysgu a chyfeillgarwch i drigolion ifanc ein cymuned fywiog.
 
Dullbyw Hamdden - Gweithgareddau Yn Y Pwll Nofio:
 
Ymunwch â ni ar ochr y pwll, wrth i ni gynnal gweithgareddau ar draws cyfleusterau Dull Byw Hamdden. Bydd ein hyfforddwyr yn arwain cyfres o weithgareddau yn y dŵr a hwyl ar ochr y pwll. Mae'n gyfle perffaith i blant ymdrwytho ym myd nofio a magu hyder yn y dŵr.
 
Gallwch weld ein Rhaglen Nofio Gwyliau’r Pasg yma: https://bit.ly/4a78QE8
  
I gadw lle mewn gweithgareddau yn y pwll yn ystod hanner tymor, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden neu gysylltu â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol.
 
Chwaraeon Caerffili – Cynlluniau Chwaraeon:
 
Camwch i fyd chwaraeon gyda thîm Chwaraeon Caerffili. Yn ystod gwyliau'r Pasg eleni mae ein Cynlluniau Chwaraeon yn cynnig cyfle i blant 7-12 oed roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon, lle bydd ein hyfforddwyr medrus yn arwain plant i feithrin sgiliau gwaith tîm, cydsymud, a chariad at weithgarwch corfforol. Drwy ganolbwyntio ar hwyl a meithrin sgiliau, mae'n gyfuniad buddugol ar gyfer hanner tymor egnïol a phleserus.
 
Cynllun Chwaraeon y Pasg - £9.35 y dydd:
 
  • Dydd Llun 25 Mawrth – dydd Gwener 5 Ebrill 9am – 3pm yng Nghanolfan Hamdden Caerffili, Canolfan Hamdden Heolddu, Ysgol Uwchradd Islwyn a Chanolfan Hamdden Rhisga
 
I gadw lle ar gyfer y Cynllun Chwaraeon y Pasg, defnyddiwch yr Ap Dullbyw Hamdden neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01443 863072 neu e-bostio chwaraeoncaerffili@caerffili.gov.uk.
 
Cynllun Chwaraeon Anabledd - £9.14 y dydd:
 
  • Dydd Llun 25 Mawrth, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
  • Dydd Mawrth 26 Mawrth, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
  • Dydd Mercher 27 Mawrth, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
  • Dydd Mawrth 2 Ebrill, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
  • Dydd Mercher 3 Ebrill, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
 
I gadw lle ar gyfer y Cynllun Chwaraeon Anabledd, defnyddiwch yr Ap Dullbyw Hamdden neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01443 863072 neu e-bostio chwaraeoncaerffili@caerffili.gov.uk.
 
 
Anturiaethau Caerffili - Diwrnodau Antur Iau:
Cychwyn ar anturiaethau bythgofiadwy gydag Anturiaethau Caerffili! Mae ein Diwrnodau Antur Iau yn cynnig cyfle i blant 7-12 oed archwilio’r awyr agored yng Nghoedwig Cwmcarn. O sgiliau byw yn y gwyllt a theithiau cerdded antur i ganŵio a phadlfyrddio, mae rhywbeth at ddant pob fforiwr ifanc! Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn cyffro, dysgu, a hwyl ddiddiwedd ym myd natur.
 
 
Diwrnodau Antur Iau - £28.90 y dydd
 
  • Dydd Llun 25 Mawrth – dydd Iau 28 Mawrth 9am – 3pm yng Nghoedwig Cwmcarn
  • Dydd Mawrth 2 Ebrill – dydd Gwener 5 Ebrill 9am – 3pm yng Nghoedwig Cwmcarn
 
I gadw lle ar gyfer y Diwrnodau Antur Iau, defnyddiwch yr Ap Dullbyw Hamdden neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01495 271 234 neu e-bostio AnturiaethauCaerffili@caerffili.gov.uk.
 
I gofrestru a chadw lle i'ch plentyn yn y gweithgareddau cyffrous hyn, defnyddiwch yr wybodaeth cadw lle sydd wedi'i darparu. Gadewch i ni wneud gwyliau’r Pasg yn fythgofiadwy ar gyfer eich plentyn, gan greu atgofion parhaol sy'n llawn chwerthin, cyfeillgarwch, a hwyl egnïol yn y gymuned.


Ymholiadau'r Cyfryngau