News Centre

Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cytuno ar wasanaeth ailgylchu newydd ar gyfer eiddo masnachol

Postiwyd ar : 21 Maw 2024

Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cytuno ar wasanaeth ailgylchu newydd ar gyfer eiddo masnachol
Yn ystod cyfarfod Cabinet a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 20 Mawrth 2024, fe wnaeth Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gytuno ar y manylion am wasanaeth ailgylchu newydd ar gyfer eiddo masnachol, yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru o ran ailgylchu yn y gweithle.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i fwyd; papur a cherdyn; gwydr; metel, plastig a chartonau; tecstilau heb eu gwerthu; ac offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb eu gwerthu i gyd gael eu gwahanu i'w casglu, a pheidio â chael eu rhoi yn y bin gwastraff gweddilliol (sbwriel), a hefyd gael eu casglu ar wahân.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd a swmp y deunyddiau ailgylchadwy.

Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig i'n cwsmeriaid gwastraff masnachol yn debyg iawn i'r gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig i gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, lle rydyn ni'n casglu sbwriel, deunyddiau ailgylchadwy cymysg sych, a gwastraff bwyd. Bydd y rheoliadau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn golygu na fydd ein dull presennol o gasglu deunyddiau ailgylchadwy cymysg sych yn cydymffurfio â'r gyfraith newydd, gan fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i fusnesau wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy ac mae'n rhaid i systemau casglu hefyd gadw'r deunyddiau ar wahân.

“Bydd ein Tîm Gwastraff ac Ailgylchu nawr yn cysylltu â holl gwsmeriaid gwastraff masnachol presennol y Cyngor i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r newidiadau, ac yn barod amdanyn nhw.

“Os oes angen cymorth neu gyngor ar unrhyw fusnes ym Mwrdeistref SirolCaerffili o ran y newidiadau newydd, cysylltwch â ni, ac fe wnawn ni ein gorau glas i'ch helpu chi.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU


Ymholiadau'r Cyfryngau