News Centre

Mwy o amser i ystyried cynigion ysgolion Menter Cyllid Preifat

Postiwyd ar : 15 Maw 2023

Mwy o amser i ystyried cynigion ysgolion Menter Cyllid Preifat

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i roi mwy o amser i drafodaethau ddigwydd cyn gwneud penderfyniad am ddwy ysgol yn yr ardal.

Cafodd Ysgol Lewis Pengam ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni eu hadeiladu yn wreiddiol fel rhan o Fenter Cyllid Preifat. Er bod 9 mlynedd yn weddill o hyd ar y contract Menter Cyllid Preifat gwreiddiol, mae'r Cyngor wedi nodi bod buddion allweddol yn bosibl pe bai'r contract yn cael ei derfynu'n gynnar.

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, wedi cyhoeddi y bydd cyfarfod i wneud y penderfyniad terfynol ar y mater yn cael ei ohirio o 15 Mawrth tan 19 Ebrill.

“Bu proses gadarn hyd yn hyn ac rydw i wedi gwrando ar adborth gan y ddwy ysgol a nifer o rieni lleol. Bydd y seibiant hwn yn y broses yn rhoi mwy o amser i bawb sydd â buddiant i ystyried y cynigion yn llawn a rhoi safbwyntiau pellach cyn gwneud penderfyniad terfynol,” dywedodd y Cynghorydd Morgan.

“Gall ymgynghori â'r ysgolion barhau hyd at ganol mis Ebrill gan roi cyfleoedd parhaus i unrhyw gwestiynau pellach gael eu hateb.”

Mae'r penderfyniad arfaethedig i dynnu'n ôl yn wirfoddol o'r trefniant Menter Cyllid Preifat yn ymwneud â darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau, glanhau, arlwyo a chynnal a chadw tiroedd yn unig. Ni fydd yn effeithio ar yr agweddau eraill ar addysgu a dysgu.

Bydd y mater nawr yn cael ei drafod mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 19 Ebrill.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau