News Centre

​Llwyddiant gwych i Ffair y Gwanwyn gyntaf erioed yng nghanol tref Coed Duon

Postiwyd ar : 08 Maw 2023

​Llwyddiant gwych i Ffair y Gwanwyn gyntaf erioed yng nghanol tref Coed Duon

Cafodd digwyddiad cyntaf y flwyddyn Bwrdeistref Sirol Caerffili ei chynnal yng nghanol tref Coed Duon y penwythnos diwethaf, dydd Sadwrn 4 Mawrth.

Croesawodd Coed Duon 8,058 o ymwelwyr gyda 1,197 yn bresennol ar ei uchaf ganol dydd. Hwn oedd diwrnod prysura’r flwyddyn hyd yn hyn, gyda 3,160 yn fwy o ymwelwyr yn y dref o’i gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol.

Roedd yna lu o stondinau bwyd a chrefft, ffair, a digonedd o weithgareddau a pherfformiadau stryd a oedd yn difyrru pawb! Roedd yn ddechrau gwych i'r flwyddyn; roedd  o fudd mawr i ganol y dref, y manwerthwyr a'r gymuned. Clywch beth oedd barn busnesau lleol a chynghorwyr am y digwyddiad:

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol a chynghorwyr am y digwyddiad:

Dywedodd Sarah, Darren a Sharon o Woodies, “Roedd llawer o wynebau hapus yn gwenu drwy’r dydd. Y ffair stryd orau a welsom ni erioed. Roedd mwy o stondinau marchnad. Trefnus iawn. Digwyddiad positif iawn. Cafodd Coed Duon ie gadw'n lân drwy gydol y dydd ac roedd llawer i’w wneud i’r plant hefyd!”

Dywedodd Huw Edwards ac Emma Zac-Price o Tidal’s Stores Ltd, “Roedd Ffair y Gwanwyn yn wych! Roedd y stondinau melyn a gwyrdd yn smart a thrawiadol. Roedd yna ysbryd cymunedol gwych ac roedden ni'n teimlo ein bod ni'n cymryd rhan. Mae’n ffordd dda o roi hwb i broffil Coed Duon; yn edrych ymlaen at ddigwyddiad yr haf!”

Dywedodd Shirley o McKenzie’s Café Bar, “Diwrnod hynod o brysur, efallai'r diwrnod prysuraf ers i ni agor!”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, "Roedd Coed Duon yn bownsio ac yn llawn gweithgaredd. Mae'r rhaglen digwyddiadau yn codi nifer yr ymwelwyr yn ein trefi ac mae hyn yn flaenoriaeth allweddol. Cael pobl yn ôl i'r trefi i gefnogi busnesau lleol."

Rydyn ni'n cynnal Ffair y Gwanwyn arall yng nghanol tref Ystrad Mynach ar ddydd Sadwrn 25 Mawrth. Dewch draw am ddiwrnod allan llawn hwyl i'r teulu!

Cafodd y digwyddiad hwn ei ariannu drwy Gyllid Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a'i drefnu gan Gyngor Caerffili. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw meithrin rhagor o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y Deyrnas Unedig drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

I holi am ofod masnachu mewn unrhyw un neu ragor o ddigwyddiadau 2023 sy'n cael eu trefnu gan y Cyngor neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, e-bostiwch Digwyddiadau@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau