News Centre

Talebau Prydau Ysgol am Ddim - y Pasg

Postiwyd ar : 30 Maw 2023

Talebau Prydau Ysgol am Ddim - y Pasg

Bydd rhieni plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn cael taliad prydau ysgol am ddim ar gyfer cyfnod gwyliau'r Pasg.

Bydd cyfanswm taliad o £39 y plentyn yn cwmpasu cyfnod gwyliau’r Pasg o 3 Ebrill 2023 i 14 Ebrill 2023. Os nad oedd eich plentyn chi'n gallu mynychu’r ysgol oherwydd y gweithredu diwydiannol diweddar gan athrawon ar 01/02/23 a 02/03/23, mae taliad o £3.90 wedi ei gynnwys am bob diwrnod.

Bydd taliadau'n dod i law erbyn 14 Ebrill 2023 fan bellaf.

Nid yw’r taliad yn cael ei roi ar gyfer plant sydd â hawl i’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, a gafodd ei gyflwyno ym mis Medi 2022 ar gyfer plant Meithrin amser llawn, Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â’r tîm Arlwyo ar 01443 864055, neu e-bostio Arlwyo@caerffili.gov.uk.



Ymholiadau'r Cyfryngau