News Centre

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn ôl!

Postiwyd ar : 14 Maw 2023

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn ôl!
Mae pobl yng Nghaerffili a ledled Cymru yn cael eu hannog i helpu diogelu'r amgylchedd ac ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2023, sydd yn dangos bod gweithredoedd bach ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda'i gilydd, maen nhw'n galw ar unigolion, aelwydydd ac ysgolion i lanhau'r strydoedd, y parciau neu'r traethau ar eu stepen drws rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal digwyddiad Glanhau Cymunedol yn Llanbradach ar 17 Mawrth. Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Glanhau Cymunedol i helpu mynd i'r afael â sbwriel yn yr ardal gyfagos. Bydd yr offer i gyd yn cael eu darparu, ond bydd angen gwisgo esgidiau addas.
Bydd y tîm yn cwrdd ger y parc chwarae ar ddiwedd Lôn Gweithdy Wingfield CF83 3RW am 10.30am ar ddydd Gwener 17 Mawrth.

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Caru Cymru – y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff. Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: “Mae ein neges eleni yn syml: gall hyd yn oed un bag wneud gwahaniaeth mawr. P'un ai eich bod yn dewis glanhau eich cymdogaeth chi, eich hoff draeth, parc neu fan prydferth – mae pob darn o sbwriel sy'n cael ei symud o'r amgylchedd naturiol yn bwysig.

“Mae codi sbwriel yn weithgaredd hwyliog hefyd, sydd am ddim ac yn gallu bod o fudd i'ch iechyd, eich lles a'ch ymdeimlad o falchder yn eich cymuned. Felly, ewch i nôl codwr sbwriel, ewch allan i'r awyr agored a dangos cariad tuag at Gymru y gwanwyn hwn.”

Eisiau cymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru ond dydych chi ddim yn gallu bod yn bresennol?

Mae Cadwch Gymru’n Daclus bellach wedi datblygu Hybiau Casglu Sbwriel Caru Cymru lle gall trigolion fenthyg popeth sydd ei angen arnynt am ddim. Mae eu rhwydwaith cynyddol o hybiau yn cynnig yr holl offer sydd ei angen arnoch i wneud gwaith glanhau diogel. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, festiau gweledol, bagiau sbwriel a chylchoedd (hanfodol ar gyfer cadw'ch bagiau ar agor mewn amodau gwyntog).
 
I gael rhagor o wybodaeth, oriau agor hybiau a manylion cyswllt ewch i: www.keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/

I wneud addewid a chymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy


Ymholiadau'r Cyfryngau